Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 572KB) Gweld fel HTML (352KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

1.3       Datganodd Neil McEvoy fuddiant fel Cynghorydd ar Gyngor Dinas Caerdydd.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (9 Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Rheoli Meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Boots (9 Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.30)

3.

Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn Dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-10-17 Papur 1 – Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-10-17 Papur 2 – Papur briffio i gyd-fynd â Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-10-17 Papur 3 – Canlyniadau arolwg addysg a dysgu proffesiynol athrawon

PAC(5)-10-17 Papur 4 – Llythyr gan NASUWT

 

 

Hannah Woodhouse – Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Nick Batchelar – Cyfarwyddwr Arweiniol (Dinas a Sir Caerdydd) Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Debbie Harteveld – Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

Dermot McChrystal – Cyfarwyddwr Arweiniol (Cyngor Torfaen) Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

Betsan O'Connor – Rheolwr Gyfarwyddwr, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Barry Rees - Is-Gyfarwyddwr Arweiniol (Ceredigion), Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Arwyn Thomas – Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Woodhouse, Rheolwr Gyfarwyddwr,  Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC); Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Arweiniol (Dinas a Sir Caerdydd) Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC); Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS); Dermot McChrysta, Cyfarwyddwr Arweiniol (Cyngor Torfaen) Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS); Betsan O'Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ein Rhanbarth ar Waith (ERW); Barry Rees, Is-Gyfarwyddwr Arweiniol (Ceredigion), Ein Rhanbarth ar Waith (ERW); ac Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE)

fel rhan o'i ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.

 

(15.40 - 16.30)

4.

Consortia Addysg Rhanbarthol: Sesiwn Dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Simon Brown - Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Clive Phillips - Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn

Mark Campion – Arolygydd EM, Estyn

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol, Clive Phillips, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Mark Campion, Arolygydd Ei Mawrhydi, Estyn, fel rhan o'i ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol.

4.2 Cytunodd Simon Brown i anfon copi o'r arolwg canfyddiad presennol y mae Estyn yn ymgymryd ag ef ynghyd â dadansoddiad o'r canlyniadau pan fyddant ar gael.

 

 

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 17.00)

6.

Consortia Addysg Rhanbarthol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd.