Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 393KB) Gweld fel HTML
(262KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor ac estynnodd groeso i Jennette Arnold, Dirprwy
Gadeirydd Cynulliad Llundain a Katie Smith, Pennaeth Craffu yng Nghynulliad
Llundain. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. 1.3 Datganodd Neil
McEvoy fuddiant fel Cynghorydd ar Gyngor Dinas Caerdydd a'i fod yn adnabod
Graham Hinchey o Gyngor Dinas Caerdydd. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i godi pryderon am fesurau gwrth-dwyll Llywodraeth
Cymru gyda'r Ysgrifennydd Parhaol yn ddiweddarach yn y tymor. |
|
Sesiwn ymadawol: Llythyr gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (24 Ionawr 2017) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2015-2016 PAC(5)-05-17 PTN2 – Llythyr gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd
Parhaol, Llywodraeth Cymru PAC(5)-05-17 PTN3 - Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar
Adroddiadau Ariannol 2015-16 Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.05) |
Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Sesiwn dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-05-17 Papur 1 – Papur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru John Rae –
Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Graham Hinchey – Aelod
Cabinet – Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd ar ddull strategol cynghorau
o greu incwm a chodi tâl. 3.2 Cytunodd Jon Rae i wirio ac anfon gwybodaeth bellach am unrhyw
gynlluniau yng Nghymru sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer awdurdodau lleol. 3.3 Cytunodd Graham Hinchey i anfon manylion ariannol y cynlluniau a
gyflwynwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd ers 2012 sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer yr
awdurdod lleol ynghyd ag enghreifftiau o gynlluniau arloesol y mae'r awdurdod
lleol wedi'u cyflwyno sydd o fudd i awdurdodau lleol eraill drwy rannu arfer
da. |
|
(15.15 - 16.15) |
Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Sesiwn dystiolaeth 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Crafodd y Pwyllgor ar waith Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth
Leol a Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl. 4.2 Cytunodd Reg Kilpatrick i anfon manylion am enghreifftiau o arfer da yn
Lloegr lle mae nifer o awdurdodau lleol wedi mabwysiadu dull newydd o greu
cwmnïau masnachu i gynhyrchu incwm. |
|
(16.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6 & 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.15 - 16.30) |
Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at
y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gyda sylwadau fel rhan
o'u hystyriaeth o'r Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol. |
|
(16.30 - 17.00) |
Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-05-17 Papur 3 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ystyriodd Aelodau'r adroddiad drafft a gwneud nifer o awgrymiadau a
fydd yn cael eu hymgorffori mewn fersiwn ddrafft arall. Trefnir bod y Pwyllgor
yn ystyried hyn ymhellach. |