Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (999KB) Gweld fel HTML (999KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Crynodeb o'r trafodaethau a gafwyd yn y Digwyddiad i Randdeiliaid (5 Rhagfyr 2016)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.05)

3.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-04-17 Papur 1 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan Cartrefi Cymunedol Cymru

 

Stuart Ropke – Brif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

Clarissa Corbisiero-Peters – Dirprwy Brif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, a Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymdeithasau Tai, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.

 

(15.15 - 16.00)

4.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Sesiwn dystiolaeth 4

PAC(5)-04-17 Papur 2 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan Cyngor Benthycwyr Morgeisi

 

John Marr - Uwch-gynghorydd Polisi, Cyngor Benthycwyr Morgeisi

Peter Hughes - Cymdeithas Adeiladu'r Principality/Cyngor Benthycwyr Morgeisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Marr, Uwch Gynghorydd Polisi, Cyngor Benthycwyr Morgeisi, a Peter Hughes, Cymdeithas Adeiladu Principality / Cyngor Benthycwyr Morgeisi, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6, 7, 8 a 9

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.00 - 16.15)

6.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.15 - 16.30)

7.

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Trafod gohebiaeth gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-04-17 Papur 3 - Llythyr gan Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent

PAC(5)-04-17 Papur 4 - Llythyr gan Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru

PAC(5)-04-17 Papur 5 - Llythyr gan Arfon Jones, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru

PAC(5)-04-17 Papur 6 - Llythyr gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed Powys

PAC(5)-04-17 Papur 7 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a nododd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad sylfaenol o ddiogelwch yn y gymuned yng Nghymru yn hytrach na gweithredu ar argymhellion adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn unig. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cadarnhau ei adolygiad arfaethedig gyda Llywodraeth Cymru ac yn ailedrych ar y mater hwn pan fo’r Llywodraeth yn cyhoeddi’r adroddiad.

(16.30 - 16.45)

8.

Rheoli meddyginiaethau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

PAC(5)-04-17 Papur 8 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-04-17 Papur 9 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli meddyginiaethau.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn nhymor y gwanwyn 2017.

 

 

(16.45 - 17.00)

9.

Adolygiad o Lywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

PAC(5)-04-17 Papur 10 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-04-17 Papur 11 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad diweddar, sef Adolygiad o Lywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i graffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2016-17 y Llyfrgell Genedlaethol yn nhymor yr hydref 2017.