Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 2MB) Gweld fel HTML
(364KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Gan fod
rhybudd wedi ei roi ymlaen llaw am absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, roedd y
Pwyllgor wedi ethol Rhun ap Iorwerth fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod
hwn o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6 yn y cyfarfod ar 3 Hydref. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.3 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Nick Ramsay. Roedd Andrew R T Davies yn dirprwyo ar ei ran. 1.4 Datganodd Lee
Waters ddiddordeb bod ei wraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. |
||
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad (28 Medi 2016) |
||
(14.05-15.15) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Byrddau Iechyd Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Lynda Williams – Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Anthony Haywood – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfleusterau, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf Rhiannon Jones – Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu
Powys Helen Ward – Pennaeth Deieteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Colin Phillpott – Rheolwr Cyfleusterau, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Holodd y Pwyllgor Lynda Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf, Anthony Hayward, Cyfarwyddwr Cyfleusterau Cynorthwyol, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd
Addysgu Powys, Liz Waters, Nyrs Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Nyrsio'r Gymdeithas,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Colin Phillpott, Rheolwr Cyfleusterau,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai. |
|
(15.25 - 16.30) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-06-16 Papur 1 Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG Cymru,
Llywodraeth Cymru Yr Athro Jean White - Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Holodd y Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif
Weithredwr y GIG a'r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai. 4.2 Cytunodd Dr Goodall i ysgrifennu at y Pwyllgor ar ddiwedd mis Tachwedd
gyda rhagor o wybodaeth am: · Y cynllun
prosiect diwygiedig ar gyfer y nyrs wybodeg newydd a fydd yn ymgymryd â'r swydd
ar ddiwedd mis Hydref; a · Canlyniad yr
ystyriaeth ar gyfer achos busnes dros gaffael system arlwyo TG o'r cyfarfod
Bwrdd Gwybodeg Cenedlaethol. 4.3 Yn ogystal, yn dilyn tystiolaeth gynharach, byddai'r Pwyllgor yn
gwerthfawrogi cael eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch i bwy mae Grŵp
Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan yn atebol. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 a’r cyfarfod ar 31 Hydref 2016 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30- 17.00) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law PAC(5)-06-16 Papur 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i
ddychwelyd at y mater ar ôl cael yr holl wybodaeth ychwanegol. 6.2 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft yn amodol ar gynnwys un neu
ddau o gwestiynau ychwanegol. 6.3 Awgrymodd Aelodau feysydd ar gyfer argymhellion posibl ar gyfer adroddiad
y Pwyllgor. |