Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14:00-14:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pumed
Cynulliad. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC a Rhun ap Iorwerth AC. Nid oedd unrhyw
ddirprwyon. 1.3 Cyflwynodd y
swyddogion sy'n cefnogi'r Pwyllgor eu hunain i'r Aelodau. 1.4 Cyflwynodd Huw
Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ei hun i'r Aelodau. |
|
(14:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 3 Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14:05-16:00) |
Cyflwyniad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus PAC(5)-01-16 papur 1 – Papur am rolau a chyfrifoldebau’r
Pwyllgor PAC(5)-01-16 papur 2 – Adroddiad Etifeddiaeth Pwyllgor y
Pedwerydd Cynulliad PAC(5)-01-16 papur 3 – Memorandwm gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru PAC(5)-01-16 papur 4 – Archwilydd Cyffredinol Cymru –
Cynllun Blynyddol 2015-16 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cyflwynodd y Cadeirydd bapurau 1 a 2 i'r Pwyllgor. Ystyriodd yr Aelodau
y papurau a chytuno i graffu ar gyfrifon blynyddol nifer o sefydliadau a
ariennir gan drethdalwyr yn ystod tymor yr hydref. 3.2 Eglurodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei rôl a'i gyfrifoldebau cyswllt
â'r Pwyllgor, a chyflwynodd bapurau 3 a 4. 3.3 Nododd y Pwyllgor ei gyfrifoldebau ac ar ôl trafodaeth, cytunodd yr
Aelodau ar raglen waith gychwynnol gan awgrymu nifer o feysydd posibl ar gyfer
ymchwiliad dan arweiniad y Pwyllgor. 3.4 Yn dilyn awgrym, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ofyn i’r Pwyllgor drafod
cyfrifon blynyddol y BBC pan fydd yn edrych ar adroddiad blynyddol y sefydliad. |