Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.

 

(14.30 - 15.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau yn amodol ar y camau canlynol:

·         Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r diweddariad nesaf a drefnwyd ar Wasanaethau Radioleg tan ddiwedd 2019;

·         Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r diweddariad terfynol ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru tan dymor y gwanwyn 2020, ar ôl i'r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2020;

·         Gofynnodd y Pwyllgor eu bod yn gofyn am eglurhad ar rôl y Cyfarwyddwr Trosiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

·         Bydd y Pwyllgor yn ymateb i'r llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

2.1

Cyfoeth Naturiol Cymru: llythyr gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (11 Gorffennaf 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno cenedlaethol: y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru (Gorffennaf 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Gwaith craffu ar Gyfrifon 2017-18: llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (16 Gorffennaf 2019)

Dogfennau ategol:

2.4

Adroddiadau'r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol: 2017-18 a 2018-19

Dogfennau ategol:

2.5

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru (Mehefin 2019)

Dogfennau ategol:

2.6

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyrau gan Lywodraeth Cymru (5 a 20 Awst 2019), Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (16 Awst 2019) a gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (29 Awst 2019)

Dogfennau ategol:

2.7

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan y Prif Weinidog (5 Awst 2019)

Dogfennau ategol:

2.8

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (9 Awst 2019)

Dogfennau ategol:

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 4, 5 & 6

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00 - 15.20)

4.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-21-19 PTN 13 Llythyr gan Fanc Datblygu Cymru (31 Gorffennaf 2019)

PAC(5)-21-19 PTN 14 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (31 Gorffennaf 2019)

PAC(5)-21-19 PTN 14a – Swm, math a diben cymorth ariannol Llywodraeth Cymru (p’un a oedd yn uniongyrchol neu drwy Cyllid Cymru neu’r Banc Datblygu), yr oedd unrhyw un o’r cwmnïau a enwyd yn y sesiwn (yng Nghofnod y Trafodion 289-291) wedi’i gael cyn iddynt fynd i ddwylo’r gweinyddwyr a chadarnhad o unrhyw ddyledion a oedd yn weddill (G M Jones, Cuddy Group, Jistcourt, GRH Food Company)

PAC(5)-21-19 PTN 14b – Cronfa Gwyddorau Bywyd Cymru, a rôl Banc Datblygu Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor yn paratoi ei adroddiad drafft.

 

(15.20-15.30)

5.

Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-21-19 Papur 1 – adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru yn y flwyddyn newydd. Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau sydd ar ddod ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu cyfrifoldebau newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (adroddiad wedi'i gyhoeddi fis Medi 2019); a’r dyletswyddau newydd a osodwyd arnynt a’u partneriaid gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi fis Tachwedd 2019), a bydd yn rhoi ystyriaeth i’r adroddiadau fel rhan o ymchwiliad penodol yn y flwyddyn newydd.

(15.30-15.45)

6.

Cronfa Gofal Integredig: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-21-19 Papur 2 – adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-21-19 Papur 3 – ymateb Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn.

6.2 Cytunodd yr aelodau i barhau i gadw golwg ar y mater hwn a dychwelyd ato yn gynnar yn y flwyddyn newydd.