Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (20 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (15 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth Ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 15.00)

3.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-10-19 Papur 1 – Papur gan RNIB

PAC(5)-10-19 Papur 2 - Astudiaeth cleifion RNIB

PAC(5)-10-19 Papur 3 - Datganiad Lywodraeth Cymru: Cyflwyno system ddigidol newydd ar gyfer gofal llygaid a chyllid gweddnewid ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid (13 Mawrth 2019)

 

Ansley Workman, Cyfarwyddwr, RNIB Cymru

Elin Haf Edwards - Rheolwr Materion Allanol, RNIB Cymru

Gareth Davies - Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ar gyfer Iechyd Llygaid a chynrychiolwr cleifion, RNIB

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Ansley Workman, Cyfarwyddwr, Elin Haf Edwards, Rheolwr Materion Allanol, a Gareth Davies, Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Iechyd Llygaid a chynrychiolydd cleifion o RNIB Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru.

3.2 Cytunodd RNIB Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:

·         Cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd;

·         Strwythur staffio cyffredinol Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth Opthalmeg; a

·         Mwy o wybodaeth am gyflwyno’r cofnod electronig e-atgyfeirio i gleifion a'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd o ran delweddu a thechnoleg er mwyn caniatáu i bryderon ynghylch cleifion gael eu cyfeirio at ymgynghorwyr

 

(15.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00 - 15.30)

5.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.

 

6.

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Tynnodd Adam Price AC sylw’r Aelodau at y penderfyniad diweddar a wnaed gan yr Uchel Lys mewn perthynas â diswyddo Carl Sargeant. Mynegodd ei bryder fod rhai cwestiynau’n parhau ym meddyliau pobl o ran doethineb y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, cynigiodd y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ofyn am gopi o adroddiad, a gafodd ei ddatgelu i’r wasg, a gynhaliwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ond gyda’r golygiadau priodol. Cefnogwyd ef gan Neil Hamilton AC a Mohammad Asghar AC.

6.2 Nid oedd Jenny Rathbone AC yn argyhoeddedig mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd y Pwyllgor priodol i ofyn am y ddogfen hon, a gofynnodd i ohirio'r drafodaeth er mwyn caniatáu iddi ystyried penderfyniad yr Uchel Lys a chael cyngor priodol. Cafodd ei chefnogi gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC

6.3 Cefnogodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor, awgrym Jenny Rathbone, a chytunwyd y byddai'r eitem yn cael ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 29 Ebrill.