Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.

 

(13.15 - 13.20)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(13.20 - 14.50)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Amgueddfa Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-28-18 Papur 1 - Adroddiad ariannol 2017-18 Amgueddfa Genedlaethol Cymru

PAC(5)-28-18 Papur 2 – Llythyr Cylch Gwaith Amgueddfa Cymru 2017-18

PAC(5)-28-18 Papur 3 – Llythyr Cylch Gwaith Amgueddfa Cymru 2018-19

PAC(5)-28-18 Papur 4 – Diweddariad gan Amgueddfa Cymru ar argymhellion y Pwyllgor ar Adroddiad Cyllid 2014-15.

PAC(5)-28-18 Papur 5 – Adroddiad ar ganlyniadau’r arolwg Buddsoddwyr Mewn Pobl

 

David Anderson - Cyfarwyddwr Cyffredinol

Neil Wicks – Dirpwy Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol

Nia Williams – Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 Amgueddfa Cymru yng nghwmni David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Neil Wicks, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol, a Nia Williams, Cyfarwyddwr Dysgu ac Ymgysylltu, Amgueddfa Cymru.

3.2 Cytunodd Neil Wicks i roi gwybod i'r Pwyllgor am nifer gyfartalog y diwrnodau fesul cyflogai a gollwyd oherwydd salwch yn 2017-18.

 

(14.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.50 - 15.20)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a thrafod y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.20 - 16.00)

6.

Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-28-18 Papur 6 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a chytuno arno.

 

(16.00 - 16.15)

7.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: cytuno ar yr adroddiad drafft

PAC(5)-28-18 Papur 7 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd yr aelodau ar yr adroddiad drafft.