Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Nodyn | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon. |
|
(13.15 - 13.25) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llywodraeth Cymru yn Ariannu Kancoat Ltd: Gohebiaeth gan Llywodraeth Cymru (6 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Craffu ar Gyfrifon Llyfrgell Genedlaethol Cymru (6 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru (20 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Gohebiaeth gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (28 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
(13.25 - 13.35) |
Addasiadau tai: ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-26-18 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn gofyn am ddiweddariad pellach am weithredu'r argymhellion yn ystod gwanwyn 2019. |
|
(13.35 - 13.50) |
Caffael Cyhoeddus yng Nghymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-18 Papur 2 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (5 Medi 2018) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunwyd i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y tymor hwn. |
|
(13.50 - 14.50) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Comisiwn y Cynulliad Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-18 Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18
Manon Antoniazzi - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nia Morgan - Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Suzy Davies AC - Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Suzy Davies AC, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y Gyllideb a Llywodraethu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2017-18. 5.2 Cytunodd Manon Antoniazzi i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda barn Comisiwn y Cynulliad unwaith y bydd wedi ystyried y papur yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd ynghylch Dangosyddion Perfformiad Allweddol y contract newydd ar gyfer caffael.
|
|
(15.00 - 16.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-18 Papur 4 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 PAC(5)-26-18 Papur 5 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Diweddariad ar argymhellion y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2013-14
Nick Bennet – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw - Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David Meaden - Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
|
|
(16.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 8
Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.15 - 16.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |