Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.15 - 15.00)

1.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y materion allweddol

PAC(5)-15-18 Papur 1 – Materion Allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd yr Aelodau y papur materion allweddol a gofynnodd bod drafft cychwynnol o argymhellion posibl yn cael ei baratoi er mwyn eu hystyried.

 

(15.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.

 

(15.00 - 15.10)

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Trafododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr ar heriau digidoleiddio gydag Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol. Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, gofynnodd Aelodau bod y Clercod yn trafod y posibilrwydd o sefydlu grŵp rapporteur ynghyd ag Aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn.

 

3.1

Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad blwyddyn gyntaf o sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

3.2

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (10 Mai 2018)

Dogfennau ategol:

3.3

Heriau digidoleiddio: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (16 Mai 2018)

Dogfennau ategol:

(15.10 - 16.30)

4.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-15-18 Papur 2– Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Cyswllt Awyr

PAC(5)-15-18 Papur 3 – Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-15-18 Papur 4 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru am ddatblygu Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus ym maes hedfan

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Wasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn

4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon manylion am berfformiad prydlondeb y gwasanaeth awyr a nifer o weithiau y cafodd y gwasanaeth ei ganslo am resymau technegol o gymharu â pherfformiad y gwasanaeth o dan weithredwyr eraill ers 2014.

 

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 17.00)

6.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ofyn am fanylion y contract, pan y'i dyfernir.