Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15 - 13.45)

1.

Rheoli Meddyginiaethau: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-06-18 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a derbyn yr adroddiad drafft.

 

(14.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Caffael Cyhoeddus: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (14 Chwefror)

Dogfennau ategol:

3.2

Caffael Cyhoeddus: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (19 Chwefror)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.30)

4.

Caffael Cyhoeddus: Sesiwn Dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-07-08 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

Sue Moffatt – Cyfarwyddwr Masnachol, Llywodraeth Cymru a Cyfarwyddwr - Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Jonathan Hopkins - Pennaeth Caffael, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Sue Moffatt, Cyfarwyddwr Masnachol, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr - Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol; a Jonathan Hopkins, Pennaeth Caffael, Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i gaffael cyhoeddus.

4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ar nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(15.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6 a'r cyfarfod a gynhelir ar 12 Mawrth 2018

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.30 - 16.00)

6.

Caffael Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.