Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC a oedd yn mynychu digwyddiad defnyddwyr gwasanaeth rhanbarthol Cefnogi Pobl Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.

 

(14.00 - 14.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau. Yn benodol, cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

·       Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddigartrefedd: Bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r Adroddiad at John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac yn gofyn am ymgymeriad o ran a oes gan y Pwyllgor y gallu i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn ac os felly, rhoi llinell amser.

·       Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch pam y cynhaliwyd yr adolygiad sero ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig ac a yw trosolwg o fewn GIG Cymru wedi'i gynnal/wedi'i gynllunio ar ei effeithlonrwydd.

·       Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad o pam nad yw system arlwyo Cymru Gyfan wedi'i darparu eto ac ni ddisgwylir iddi fod ar gael fel rhywbeth 'yn ôl y gofyn' ​​tan 2019, yn ogystal â gofyn am linell amser ar gyfer yr Adolygiad Gateway o System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru. 

 

 

 

2.1

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfrifon Llywodraeth Ganolog 2016 -17

Dogfennau ategol:

2.2

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Digartrefedd Llywodraeth Leol 2017

Dogfennau ategol:

2.3

Caffael Cyhoeddus: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol

Dogfennau ategol:

2.4

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (22 Rhagfyr 2017)

Dogfennau ategol:

2.5

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (3 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:

(14.15 - 14.30)

3.

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru

PAC(5)-01-18 Papur 1 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (6 Rhagfyr 2017)

PAC(5)-01-18 Papur 2 - Adroddiad Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda’n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel) (cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017)

PAC(5)-01-18 Papur 3 – Datganiad Llafar Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda’n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel) (cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau adolygiad Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel - a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder o'r amserlen ar gyfer gweithredu'r argymhellion sy'n ymwneud â'r strategaeth diogelwch cymunedol.

 

(14.30 - 15.30)

4.

Sesiwn Ragarweiniol gyda Chyfarwyddwyr Cyffredinol newydd, Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd yr aelodau sesiwn ragarweiniol gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn dilyn eu penodiad diweddar.

4.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·       Diweddariad ar elfennau codio y rhaglen Hwb (gwefan a chasgliad o adnoddau ar-lein a ddarperir i bob ysgol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru) a chynnwys gwybodaeth am weithgareddau ar addysgu codio mewn ysgolion yn fwy cyffredinol, nid dim ond yn benodol i’r rhaglen Hwb.

4.3 Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol:

·       Darparu nodyn ar y gydberthynas sydd gan Lywodraeth Cymru â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU;

·       Darparu nodyn dilynol ar y tablau yng nghyd-destun modelu'r economi fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Economaidd;

·       Anfon nodyn i ddiweddaru sut y mae'r pwerau arfaethedig i roi mwy o ymreolaeth i Trafnidiaeth Cymru yn mynd rhagddynt; a'r

·       Sylw i Gymru o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw o fethdaliad Carillion.

 

 

(15.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6 a 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.30 - 16.15)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-01-18 Papur 4 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o argymhellion ychwanegol.

6.2 Bydd y Clercod yn diwygio'r adroddiad drafft ac yn ei ddosbarthu i'r Aelodau, i'w gytuno, drwy e-bost.

 

(16.15 - 17.00)

7.

Y Rhaglen Waith Gyfredol

PAC(5)-01-18 Papur 5 – Rhaglen waith gwanwyn 2018

PAC(5)-01-18 Papur 6 - Cyllid ar gyfer y diwydiant ffilm a’r cyfryngau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr Aelodau gyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Systemau Gwybodeg GIG Cymru ar 11 Ionawr. Dim ond yn ddiweddarach yn y tymor y disgwylir i ymateb Llywodraeth Cymru gael ei dderbyn ac oherwydd ei bod eisoes wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r materion, bydd y Clercod yn trefnu i dystion fynychu'r Pwyllgor yn ystod tymor yr haf.

7.2 Trafododd yr Aelodau y materion ariannol sy'n ymwneud â'r diwydiannau ffilm a'r cyfryngau sydd wedi dod i sylw'r cyhoedd yn ddiweddar. Cytunwyd y dylai Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ystyried materion polisi ac y dylid cyfeirio unrhyw faterion rheoli ariannol i'r Pwyllgor hwn. Nodwyd fod disgwyl i ymateb yr Archwilydd Cyffredinol i bryderon a godwyd mewn gohebiaeth gael ei dderbyn yn ystod wythnos 22 Ionawr. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater.

 

8.

Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nodwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad.