Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC – dirprwyodd Angela Burns AC ar ei ran. Ymddiheurodd Neil Hamilton AC ac Adam Price AC hefyd.

1.3       Datganodd Lee Waters AC fuddiant fel Aelod o Bwyllgor Archif Gwleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (16 Hydref 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru (1 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Penodi Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (18 Hydref 2017)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 14.30)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Cyngor Celfyddydau Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-28-17 Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Cyngor Celfyddydau Cymru

PAC(5)-28-17 Papur 2 – Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru gan Lywodraeth Cymru

 

Nick Capaldi - Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru

Gwyn Williams - Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Celfyddydau Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Aelodau yn craffu ar waith Nick Capaldi, Prif Weithredwr a Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.

3.2 Cytunodd Nick Capaldi i anfon:

·       rhagor o wybodaeth am swm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer prosiectau sydd wedi'u targedu'n benodol i NEETS mewn ardaloedd difreintiedig, nifer y prosiectau a'r flaenoriaeth a roddir iddynt gan Gyngor y Celfyddydau;

·       dadansoddiad manwl o gronfeydd wrth gefn Cyngor Celfyddydau Cymru; a

·       nifer y sefydliadau a nodwyd yn rhai ‘risg coch’ yn y portffolio.

 

 

(14.40 - 15.40)

4.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-28-17 Papur 3 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Llyfrgell Genedlaethol Cymru

PAC(5)-28-17 Papur 4 – Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-28-17 Papur 5 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (18 Hydref 2017)

PAC(5)-28-17 Papur 6 – Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (25 Hydref 2017)

 

 

Linda Tomas - Llyfrgellydd Cenedlaethol

Rhodri Glyn Thomas – Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

David Michael - Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu Aelodau yn craffu ar waith Linda Tomas, Llyfrgellydd Cenedlaethol; Rhodri Glyn Thomas, Llywydd a David Michael, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.

 

 

(15.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.40 - 16.00)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

6.1 Gofynnodd y Cadeirydd i'r Clercod baratoi adroddiad er mwyn i'r Aelodau ei ystyried.