Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 494KB) Gweld fel HTML
(302KB) |
||
(12.00 - 13.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Strategaeth y Pwyllgor Cofnodion: 1.1 Cymerodd Aelodau'r Pwyllgor ran mewn hyfforddiant fel rhan o'u paratoi
ar gyfer y gwaith sydd i ddod ar graffu ar gyfrifon. |
|
(13.00 - 13.30) |
Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Cofnodion: 2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau
ei Archwiliad o Reoliadau Contractio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
gyda RKC Associates Ltd a'i Berchennog, a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf 2017. |
|
(13.30 - 13.40) |
Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-23-17
Papur 1A - Rhaglen waith yr hydref Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-23-17
Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-23-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar
ganfyddiadau ei Adroddiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire
Energy Limited, a gyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf. 3.2 Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhoi gwybod
iddo am yr Adroddiad. |
|
(13.40 - 13.50) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-23-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-23-17 Papur 3A – Ymateb Llywodraeth Cymru i
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar
ganfyddiadau ei Adroddiad ar Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, a
gyhoeddwyd ar 31 Awst 2017. 4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn. |
|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. 5.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan. |
|
(14.00 - 14.15) |
Papur(au) i'w nodi: Cofnodion: 6.1 Cafodd y papurau eu nodi. 6.2 Cytunodd y Cadeirydd i anfon copi o ymateb Llywodraeth Cymru at
Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. 6.3 Mewn perthynas ag Eitem 6.7, Amseroedd Aros GIG ar gyfer Gofal Dewisol
yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig, nododd yr Aelodau y cynnydd a wnaed a
chytunwyd i dderbyn diweddariad pellach ar gynnydd yn ystod gwanwyn 2018. |
|
Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (18 Gorffennaf 2017) Dogfennau ategol: |
||
Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Kancoat Cyf: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Gorffennaf 2017) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: llythyr gan Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (19 Gorffennaf 2017) Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Gorffennaf 2017) Dogfennau ategol: |
||
Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (26 Gorffennaf 2017) Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (7 Awst 2017) Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu Deddf Cymru 2017: Llythyr gan y Llywydd (18 Awst 2017) a llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (17 Medi 2017) Dogfennau ategol: |
||
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
(14.15 - 14.25) |
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-23-17
Papur 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-23-17
Papur 5 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion
yn adroddiad y Pwyllgor a nododd y bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r ymateb at
Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. 7.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod
y gwanwyn 2018 ond yn y cyfamser, bydd y
Cadeirydd yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o
bwyntiau a godwyd. |
|
(14.25 - 14.35) |
Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-23-17
Papur 6 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-23-17
Papur 7 - Llythyr gan Gartrefi Cymunedol Cymru PAC(5)-23-17 Papur 8 – Ymateb Bwrdd Rheoleiddiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion
a gynhwyswyd yn adroddiad y Pwyllgor a nododd yr ymateb cadarnhaol gan y sector
tai. 8.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod
y gwanwyn a Thachwedd 2018. |
|
(14.35 - 14.45) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar Cofnodion: 9.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod ymateb manwl i'w lythyr ar 26
Mehefin wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bod yr Archwilydd Cyffredinol
wedi rhoi sylwadau arno. 9.2 Oherwydd pwysau amser, dywedodd nad oedd digon o amser i ystyried a
thrafod yr ymatebion yn fanwl. 9.3 Cytunodd yr aelodau i drafod yr ohebiaeth hon yn ystod y cyfarfod ar 2
Hydref 2017. |
|
(14.45 - 14.55) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-23-17 Papur 9 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd
Parhaol, Llywodraeth Cymru (17 Awst
2017) Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflog uwch
reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru 2015-16. 10.2 Gofynnodd yr aelodau i'r Cadeirydd ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn
diolch iddynt am yr adroddiad ac yn gofyn bod adroddiadau blynyddol yn y
dyfodol yn cynnwys manylion am sefydliadau addysg bellach a landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. |
|
(15.05 - 16.10) |
Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Sesiwn dystiolaeth Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-23-17
Papur 10 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-23-17
Papur 11 - Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro PAC(5)-23-17
Papur 12 – Llythyr gan Lwodraeth Cymru Len Richards - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Caerdydd a'r Fro Maria
Battle - Bwrdd
Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 11.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Len Richards, Prif Weithredwr a Maria
Battle, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr
Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r
Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog. |
|
(16.10 - 16.40) |
Sesiwn ymadawol: Owen Evans - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Owen
Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: 12.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gydag Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Addysg a
Gwasanaethau Cyhoeddus, cyn iddo adael y sefydliad. 12.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr
S4C. |
|
(16.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 14
a 15 Cofnodion: 13.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.40 - 16.50) |
Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 14.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i
ddychwelyd i'r mater unwaith y derbyniwyd yr adroddiad gwrth-dwyll. 14.2 Yn y cyfamser, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Brif Weithredwr a
Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn tynnu sylw at bryderon y
Pwyllgor ac yn ceisio sicrwydd y bydd eu cynllun gweithredu yn mynd i'r afael
â'r holl faterion a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor. |
|
(16.50 - 17.00) |
Sesiwn ymadawol: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 15.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |