Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 377KB) Gweld fel HTML (210KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu (29 Mehefin 2017). Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn gofyn iddynt graffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y mater hwn, yn ystod eu sesiynau craffu rheolaidd ar waith Gweinidogion.

 

2.1

Hysbysiad o Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yng Nghyllid a Thollau EM (13 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu (29 Mehefin 2017).

Dogfennau ategol:

2.3

Llywodraeth Cymru yn cyllido Kancoat Cyf: Llythyr gan y Prif Weinidog (28 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:

2.4

Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15:15)

3.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-20-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

 

3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon manylion pellach am y newidiadau yn y dangosyddion perfformiad sydd wedi digwydd yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6, a 7 cyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2017.

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.25 - 15.45)

5.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i gyhoeddi adroddiad byr.

 

(15.45 - 16.10)

6.

Blaenraglen waith: Trafod blaenraglen waith Hydref 2017

PAC(5)-20-17 Papur 2 – Blaenraglen Waith

PAC(5)-20-17 Papur 3 – Cylchffordd Cymru: Trafod y llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith a nodwyd ei chynnwys.

6.2 Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft ar Gylchdaith Cymru, a'i gytuno, yn amodol ar un neu ddau o fân newidiadau.

 

(16.10 - 16.45)

7.

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-20-17 Papur 4 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o newidiadau. Bydd y Clercod yn cylchredeg fersiwn ddiwygiedig yn dangos y newidiadau, drwy e-bost.