Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 594KB) Gweld fel HTML (393KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

1.3       Datganodd Lee Waters AC fuddiant yn sgil y ffaith bod ei wraig yn cael ei chyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Eitem 4).

 

(14.00 - 14.10)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch yr heriau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn sgil y broses ddigideiddio, ac i roi gwybod iddi fod y Pwyllgor yn dymuno trafod y mater hwn â hi y tro nesaf y bydd yn dod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor.

 

2.1

Sesiwn gychwynnol: Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar ddigideiddio (1 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:

(14.10 - 15.15)

3.

Rheoli Meddyginiaethau: Sesiwn dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Judy Henley - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Contractwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Mark Griffiths - Cadeirydd, Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Mair Davies - Cyfarwyddwr Cymru, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Cheryl Way - Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Swyddog Arweiniol Cenedlaethol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'i ymchwiliad i reoli meddyginiaethau: Judy Henley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Contractwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Mark Griffiths, Cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Elen Jones, Arweinydd Practis a Pholisi, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru; a Cheryl Way, Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Swyddog Arweiniol Cenedlaethol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru).

3.2 Nododd y Pwyllgor fod Elen Jones yn bresennol yn lle Mair Davies, Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, yn sgil ei salwch.

 

(15.30 - 16.45)

4.

Rheoli Meddyginiaethau: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-17-17 Papur 1 – Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

PAC(5)-17-17 Papur 2 – Papur gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

PAC(5)-17-17 Papur 3 – Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

Allison Williams - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Suzanne Scott-Thomas, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Yr Athro Rory Farrelly - Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro / Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Judith Vincent - Cyfarwyddwr Clinigol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Carol Shillabeer - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Karen Gully – Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'i ymchwiliad i reoli meddyginiaethau: Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; Suzanne Scott-Thomas, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; yr Athro Rory Farrelly, Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro / Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Judith Vincent, Cyfarwyddwr Clinigol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; a Karen Gully, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

4.2 Cytunodd Judith Vincent i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gwaith y mae'r Athro Routledge yn ei hwyluso gydag arbenigwyr ynghylch derbyniadau sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau yng nghyd-destun diogelwch cleifion.

 

(16.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.45 - 17.00)

6.

Rheoli Meddyginiaethau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.