Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfrifon Llywodraeth Ganolog 2015-16 PAC(5)-16-17 PTN1: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru:
Cyfrifon Llywodraeth Ganolog 2015-16 Dogfennau ategol: |
||
Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - Gwybodaeth ychwanegol gan Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig (24 Mai 2017) Dogfennau ategol: |
||
Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (26 Mai 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.20) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-16-17 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-16-17 Papur 2 - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru yn trafod ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn
am adroddiad cynnydd yn ystod tymor yr hydref 2017. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid ceisio cael cadarnhad gan Lywodraeth
Cymru ynghylch yr amser o ran bwriad Llywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau
iechyd i ymchwilio i hyfforddiant gorfodol ar gyfer maeth. |
|
(14.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5, 6, 7 ac 8 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.20 - 15.30) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-16-17 Papur 3 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafodwyd yr adroddiad drafft. Gofynnodd Aelodau i rywfaint o
newidiadau drafftio gael eu gwneud, a fydd yn cael eu trafod y tu allan i'r
Pwyllgor. |
|
(15.30 - 16.00) |
Blaenraglen waith: Rhaglen Waith Gwerth am Arian Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-16-17 Papur 4 - Rhaglen Waith Gwerth am Arian Archwilydd Cyffredinol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei bapur ar waith sy'n mynd
rhagddo ar raglen waith gwerth am arian, a gafodd ei nodi gan yr Aelodau. |
|
(16.00 - 16.30) |
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-16-17 Papur 5 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru: Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd Aelodau eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei
adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chytunodd i gynnal ymchwiliad yn hwyrach
yn nhymor yr hydref 2017 unwaith y bydd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau mwy
datblygedig ar gael ar gyfer Band B y rhaglen. |
|
(16.30 - 17.00) |
Plant sy’n derbyn gofal: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad PAC(5)-16-17 Papur 6 - Ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl
drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd yr Aelodau y papur a chroesawodd gynnig Archwilydd Cyffredinol
Cymru i lunio Memorandwm ar ddarlun eang y mater. Roedd yr Aelodau hefyd yn
ymwybodol o'r angen i gysylltu â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn
ystod y gwaith hwn. |