Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon. Roedd Rhianon Passmore AC yn absennol.

 

(14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (10 Mai 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.50)

3.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-15-17 Papur 1 – Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16

PAC(5)-15-17 Papur 2 - Archwilydd Cyffredinol Cymru Memorandwm

 

David Sulman - Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Sulman, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU fel rhan o'i ymchwiliad i'r gwaith craffu ar  Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

(14.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5 a 7

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.50 - 15.05)

5.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd gan Mr Sulman.

 

(15.15 - 16.45)

6.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-15-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-15-17 Papur 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-15-17 Papur 5 - Cyfoeth Naturiol Cymru – Adroddiad Archwilio Mewnol: Contractau Hirdymor ynghylch Gwerthu Pren (Mai 2017)

 

Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr

Kevin Ingram – Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.

6.2 Craffodd yr Aelodau ar Dr Emyr Roberts a Kevin Ingram ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Ddatblygu Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016.

6.3 Cytunodd Dr Roberts i anfon diweddariad ar ddangosyddion perfformiad CNC a chynnwys cymhariaeth blwyddyn wrth flwyddyn er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu tueddiadau mewn perfformiad.

 

(16.45 - 17.00)

7.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Bu'r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law wrth graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid oedd rhai Aelodau'n fodlon ar y dull a gymerwyd gan CNC at yr ymarfer tendro yn 2012 a nodwyd bod gwrthdaro o ran tystiolaeth gan y ddwy set o dystion ynghylch y mater hwn. Gofynnwyd i'r Clercod archwilio ymhellach gyda Mr Sulman beth oedd cyflwr y farchnad bren a beth oedd e'n teimlo y gallai CNC fod wedi'i wneud i ehangu cwmpas y tendr.

7.2 Nododd yr Aelodau y bydd yr adroddiad drafft ar gael iddynt i'w drafod yng Nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin.

7.3 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn craffu ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â materion y mae'r Pwyllgor yn dymuno iddynt gael eu cynnwys yng ngwaith craffu blynyddol y Pwyllgor ar CNC yn nhymor yr hydref.