Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
(14.05 - 14.15) |
Ymchwiliad i Drefn Reoleiddio Cymdeithasau Tai PAC(5)-10-16 Papur 1 - Llythyr ymgynghori Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau fod yr ymgynghoriad ysgrifenedig wedi agor heddiw, a'i
fod yn dod i ben ar 5 Ionawr 2017. 3.2 Nododd yr Aelodau y digwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr
gyda thenantiaid cymdeithasau tai. 3.3 Cododd yr Aelodau nifer o bwyntiau i holi yn eu cylch yn y sesiynau
tystiolaeth. |
|
(14.15 - 14.45) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Briff Ymchwil PAC(5)-10-16 Papur 2 - Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y
Memorandwm Consortia Addysg Rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. 4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn yn y gwanwyn
2017. |
|
(14.45 - 15.15) |
Craffu ar Gyfrifon: Trafod yr adroddiad drafft, a chytuno arno CLA(5)-10-16 Papur 3 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr hoffai roi sylwadau
ysgrifenedig ar yr adroddiad. O'r herwydd, gohiriwyd yr eitem ar gyfer cyfarfod
arall yn y dyfodol. |
|
(15.25 - 17.00) |
Adolygiad o ffyrdd Pwyllgorau'r Cynulliad o weithio Kate Faragher - Bespokeskills Cofnodion: 6.1 Croesawodd y Cadeirydd Kate Faragher o Bespokeskills i'r cyfarfod. 6.2 Rhoddodd Kate Faragher adborth i'r Aelodau ar eu rôl fel Aelodau o'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ac ar ffordd y Pwyllgor o weithio yn dilyn ei sesiwn
flaenorol a gynhaliwyd fel rhan o raglen gynefino'r Pwyllgor ym Medi 2016. 6.3 Gofynnodd yr Aelodau am sesiwn arall ar eu perfformiad yn haf 2017. |