Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor:

·       Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – i ofyn i AGIC am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch adolygwyr lleyg gwirfoddol yn ystod haf 2017; a

·       Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyrfa Cymru – i ofyn am eglurhad pellach am y rhesymeg ynghylch pam nad yw holl gynlluniau pensiwn blaenorol awdurdodau lleol wedi'u huno mewn un cynllun.

 

 

2.1

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (10 Hydref 2016)

Dogfennau ategol:

2.2

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau (17 Hydref 2016)

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (17 Hydref 2016)

Dogfennau ategol:

2.4

Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyrfa Cymru (19 Hydref 2016)

Dogfennau ategol:

2.5

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (21 Hydref 2016)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.20)

3.

Gwasanaethau Rheilffyrdd: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-07-16 Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-07-16 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Gan fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi trefnu cynnal ymchwiliad i wasanaethau rheilffyrdd, cytunodd y Pwyllgor na fyddai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad.   Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ofyn am gynnwys materion a  amlygwyd yn y drafodaeth yn eu hymchwiliad hwy.

 

(14.20-14.30)

4.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gohebiaeth

PAC(5)-07-16 Papur 3 – Llythyr gan y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru (26 Medi 2016)

PAC(5)-07-16 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru i’r Cadeirydd (24 Hydref 2016)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn gan edrych yn benodol ar y trosolwg strategol.

 

(14.30-14.50)

5.

Cymdeithasau Tai: Papur cwmpasu ar ymchwiliad posibl

PAC(5)-07-16 Papur 3 - Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu'r Aelodau yn ystyried ac yn trafod y papur cwmpasu ynghylch ymchwiliad posibl i gymdeithasau tai.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar yr amod bod cylch gorchwyl ychwanegol yn cael ei gynnwys.

 

(14.50 - 15.20)

6.

Y Goblygiadau i Gymru o ran Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd

PAC(5)-07-16 Papur 4 – Papur cwmpasu

PAC(5)-07-16 Papur 5 – Gohebiaeth gyda’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu'r Aelodau yn ystyried ac yn trafod y papur cwmpasu ynghylch ymchwiliad posibl i'r goblygiadau i Gymru o ran Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

6.2 Gofynnodd yr Aelodau i'r Tîm Clercio i ddiwygio'r papur a'i ddychwelyd at y Pwyllgor i'w ystyried ymhellach.