Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 109KB) Gweld fel HTML
(365KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Nid chafwyd dirprwy ar ei ran. 1.3 Datganodd Lee
Waters ei fod yn ffrind personol i Gadeirydd Maes Awyr Caerdydd. Datganodd Neil
McEvoy fuddiant fel un a fu’n Gyfarwyddwr cwmni a wnaeth gais am grant gan
Lywodraeth Cymru. Datganodd Mike Hedges fuddiant fel un a gyflogwyd yn
flaenorol yn y diwydiant alwminiwm a dur. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
(14.05 - 15.05) |
Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Briff Ymchwil James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth
Cymru Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a
Mick McGuire, Cyfarwyddwr, Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat
Ltd. 3.2
Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
(15.05 - 15.25) |
Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad Briff Ymchwil PAC(5)-09-16 Papur 1: Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-09-16 Papur 2: Ymateb Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf PAC(5)-09-16 Papur 3: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth
Cymru Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor
blaenorol o'i ymchwiliad i Gaffael Maes Awyr Caerdydd. 4.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth
a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Chaffael Maes Awyr Caerdydd. 4.3 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
(15.25 - 15.45) |
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Briff Ymchwil PAC(5)-09-16 Papur 4 James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth
Cymru Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i
argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn
i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn. 5.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth
ac Isadeiledd TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn
i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn. |
|
(15.45 - 16.05) |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-09-16 Papur 5 James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth
Cymru Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i
argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth
Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf 6.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth
a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru
yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf. 6.3 Cytunodd James Price i anfon rhagor o wybodaeth yn egluro'r mentrau
sy'n cael eu cymryd i godi ymwybyddiaeth a chynyddu sgiliau digidol ar gyfer
defnyddwyr y rhyngrwyd. |
|
(16.05 - 16.25) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Briff Ymchwil PAC(5)-09-16 Papur 6 James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth
Cymru Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor
blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang
y genhedlaeth nesaf 7.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth
a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru
yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf. 7.3 Cytunodd James Price i anfon eglurhad o’r mewnbwn y bydd gan
Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn yr ymgynghoriad ar y Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol. |
|
(16.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 9 a’r cyfarfod ar 21 Tachwedd Cofnodion: 8.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.35 - 17.00) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law ar gyfer eitemau 3 - 7 Cofnodion: 9.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y
canlynol: Kancoat Gofynnodd yr Aelodau i'r Clercod baratoi crynodeb o'r dystiolaeth a
dderbyniwyd ynghyd ag argymhellion posibl i’w hystyried. Nododd yr Aelodau
hefyd bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi trefnu i gynnal archwiliad o
Ddulliau Cefnogi Busnes Llywodraeth Cymru yn 2017. Maes Awyr Caerdydd Cytunodd yr Aelodau i dderbyn adroddiad cynnydd pellach ymhen 12 mis. Cyswllt awyr Gofynnodd yr Aelodau am i ganlyniadau adolygiad Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a Seilwaith o'r cwmni hedfan Gogledd-De fod ar gael i'r Pwyllgor pan
gânt eu cyhoeddi. Band eang Cytunodd yr Aelodau na fyddant yn gofyn am ragor o ddiweddariadau yn sgil
yr ymchwiliad a gynlluniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Fand
Eang. Cefnffyrdd Cytunodd yr Aelodau i ystyried eto a fydd angen unrhyw ddiweddariadau
pellach ar ôl derbyn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, pan fydd ar gael. |