Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML
(259KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd
Paul Davies ar ei rhan. 1.3
Hefyd, croesawodd y Cadeirydd ddirprwyaeth o Senedd
Botswana a fu’n arsylwi rhan o'r cyfarfod o'r oriel gyhoeddus. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cytunwyd ar y
cofnodion. |
|
(14.05-15.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Llywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-05-16 Papur 1 Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Gawain Evans – Cyfarwyddyr Cyllid, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy - Cyfarwyddyr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Syr Derek Jones, yr
Ysgrifennydd Parhaol, Gawain Evans, y Cyfarwyddwr Cyllid a Peter Kennedy,
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Llywodraeth
Cymru ynghylch Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2015-16. 3.2 Cytunodd Syr Derek Jones i anfon rhagor o wybodaeth
am y materion a ganlyn:
Sut y caiff rhwymedigaethau cyfyngedig a heb eu meintoli
eu cyfrifo o ran eglurder |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(15.40-16.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr
aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y broses o graffu ar gyfrifon
2015-16. |
|
Sylwadau i gloi Gan nad oedd y tyst a oedd i fod yn bresennol yn y
cyfarfod ar 10 Hydref ar gael, cytunodd y Pwyllgor i ohirio busnes nes y gall
tyst fod yn bresennol ar 14 Tachwedd. Bydd y Cadeirydd i ffwrdd ar fusnes y Cynulliad ar 17
Hydref a galwodd ar yr aelodau i enwebu cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod
ar 17 Hydref, a hynny o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6. Enwebwyd Rhun ap
Iorwerth gan Rhiannon Passmore ac fe'i hetholwyd. |