Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, a oedd yn bresennol fel dirprwy yn lle Eluned Morgan AC, yn dilyn ei dyrchafiad i'r Llywodraeth fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.00)

2.1

PTN1 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: amcangyfrif ar gyfer 2018-19 – 27 Hydref 2017

Dogfennau ategol:

(09.00-09.40)

3.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth 6 (y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy)

Anne Meikle, Cadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (WWF Cymru)

Annie Smith, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (RSPB Cymru)

Hayley Richards, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (Oxfam Cymru)

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anne Meikle, Cadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (WWF Cymru); Annie Smith, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (RSPB Cymru); a Hayley Richards, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (Oxfam Cymru) ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

(09.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac eitemau 7-10

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.40-09.55)

5.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.00-11.00)

6.

Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2016-17 ac amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Garner - Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O'Donoghue - Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 2 - Amcangyfrif o'r incwm a'r gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2019

Papur 3 - Achos Busnes: Dadansoddiadau data

Papur 4 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17

Papur 5 - Adroddiad Terfynol ar Ganfyddiadau'r Archwiliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017

Papur 6 - Cynllun Blynyddol 2017-18

Papur 7 - Adroddiad Dros Dro - Asesiad o'r cynnydd a wnaed o safbwynt ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2017-18 yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2017

Papur 8 - Memorandwm Esboniadol i'r Pwyllgor Cyllid ynghylch amrywio amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2018

Papur 9 - Y drefn ffioedd archwilio cyhoeddus gymhleth yng Nghymru - achos dros newid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid Swyddfa Archwilio Cymru.

 

(11.00-11.15)

7.

Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2016-17 ac amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2018-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15-11.35)

8.

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016: Offerynnau Statudol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ganlyn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt:

·         Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017: a

·         Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017.

 

(11.35-11.45)

9.

Goblygiadau ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Papur 12 – Craffu ariannol ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil Iechyd Cyhoeddus (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu pellach.

 

(11.45-12.00)

10.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19: trafod ymateb Comisiwn y Cynulliad

Papur 13 - Ymateb Comisiwn y Cynulliad i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.