Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn a hyd nes yr etholir cadeirydd parhaol.

 

1.2 Enwebwyd Llyr Gruffydd gan Mike Hedges, ac fe'i hetholwyd yn gadeirydd dros dro.

 

1.3 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei ran.

 

1.5 Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.00-10.00)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20: Sesiwn dystiolaeth

Suzy Davies AC, Comisiynydd ar gyfer y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papur 1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2019-20

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AC, sef y Comisiynydd dros y Gyllideb a Llywodraethiant; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20.

 

3.2 Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu:

·         rhagor o fanylion ar brosiectau penodol sy'n flaenoriaeth ar gyfer 2019-20; a

·         ffigurau ar gyfer absenoldebau salwch ers mis Mawrth 2018.

 

 

(10.00-11.00)

4.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

 

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Memorandwm esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio; Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru; a Huw Charles, Rheolwr Bil, Llywodraeth Cymru ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).     

 

(11.00-12.00)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Sesiwn dystiolaeth 1 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol

 

Ymatebion i'r ymgynghoriad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00-12.10)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.10-12.20)

8.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20-12.30)

9.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12:30-12:40)

10.

Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa Archwilio Cymru

Laurie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Busnes, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 2 - Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch caffael gwasanaethau archwilio allanol i Swyddfa Archwilio Cymru a chytunodd ar y cyflenwr a argymhellir, sef RSM Tenon.