Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil Hamilton AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

(09.30-10.15)

3.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 4 (Sefydliad Bevan)

Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Sefydliad Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.

 

(10.15-11.00)

4.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 5 (Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth)

Alan Bermingham, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

 

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Bermingham o'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.

 

(11.00-11.45)

5.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Yr Athro Steve Fothergill, Prifysgol Hallam, Sheffield

Yr Athro David Bell, Prifysgol Stirling

Yr Athro Terry Marsden, Prifysgol Caerdydd

 

Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Yr Athro Steve Fothergill

Papur 4 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Yr Athro David Bell

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Steve Fothergill o Brifysgol Sheffield Hallam, yr Athro David Bell o Brifysgol Stirling a'r Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.

 

(11.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.45-12.00)

7.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00-12.30)

8.

Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Papur 5 - Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20, gan gytuno:

·         i gyhoeddi crynodeb o'r trafodaethau â rhanddeiliaid yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 7 Mehefin 2018;

·         i ysgrifennu at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu i graffu arnynt; ac

·         i ddarparu cyngor arbenigol ynghylch cyfradd treth incwm Cymru.