Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.00-09.50)

2.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 1 (Cydffederasiwn GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru)

Vanessa Young, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Gerry Evans, Dirprwy Brif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Papur 1 - Conffederasiwn GIG Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 2 - Gofal Cymdeithasol Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vanessa Young, Cyfarwyddwr, Cydffederasiwn GIG Cymru; Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; a Gerry Evans, Dirprwy Brif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gyfer ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

(09.50-10.40)

3.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 2 (Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025)

Dr Daria Luchinskaya, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025

Joseph Ogle, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025

 

Papur 3 - Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025: Tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Joseph Ogle, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, ar gyfer ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

(10.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.40-10.50)

5.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.50-11.00)

6.

Ymchwiliad i’r tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau: trafod y dystiolaeth ysgrifenedig

Papur 4 - Papur eglurhaol

Papur 5 - Crynodeb o'r dystiolaeth

Papur 6 - Pecyn ymgynghori

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd.

(11.00-11.20)

7.

Ymchwiliad i'r paratoadau ariannol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd: dull o gynnal gwaith craffu

Papur 7 – Dull o gynnal y gwaith craffu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o gynnal ei ymchwiliad i'r paratoadau ariannol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

(11.20-11.30)

8.

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016: Offerynnau Statudol ym maes treth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt.