Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

2.1

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) – 10 Ionawr 2018

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 3 (Awdurdod Refeniw Cymru)

Kathryn Bishop, Cadeirydd, Awdurdod Cyllid Cymru

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kathryn Bishop, Cadeirydd, Awdurdod Refeniw Cymru, a chan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Refeniw Cymru ar y paratoadau ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru.

 

3.2 Cytunodd y Prif Weithredwr i roi nodyn i'r Pwyllgor yn nodi'r hyn y bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn ei wneud yn ystod y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2018 i sicrhau bod gwaith y Gofrestrfa Tir ynghylch trafodiadau trawsffiniol yn cael ei gydlynu.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.10)

6.

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017: Offerynnau Statudol ym maes treth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ym maes treth a ganlyn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt:

 

·         Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

·         Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018

·         Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018

·         Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018

·         Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018

 

(11.10-11.15)

7.

Deddf Treth Gwaredu Tirlenwi (Cymru) 2017: Offeryn Statudol ym maes treth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 a chytunodd i gyflwyno adroddiad arnynt.