Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.

 

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.00)

2.1

PTN 1 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio – Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) – 14 Tachwedd 2017

Dogfennau ategol:

(09.00-10.00)

3.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Sesiwn dystiolaeth 7 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru)

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru

Kate Carr, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a Kate Carr, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer                                                                                                                                         2018-19.

 

3.2 Cytunodd y Comisiynydd i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am ei hadborth mewn perthynas â chynlluniau peilot cyllidebu cyfranogol Llywodraeth Cymru.

 

(10.45-12.30)

4.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am faint y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ran cyllid canlyniadol Barnett a'r lluosydd y cytunwyd arno yn y fframwaith ariannol, o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllideb Llywodraeth y DU.

 

(13.00-14.00)

5.

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Ian Williams, Llywodraeth Cymru

Ian Walters, Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 - Nodyn Technegol ar gyfer yr Is-bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Gronfa Enillion o Warediadau

 

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio; Ian Williams, Llywodraeth Cymru; ac Ian Walters, Llywodraeth Cymru, ynghylch Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

 

(14.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 29 Tachwedd 2017

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.00-14.15)

7.

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.15-15.00)

8.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.