Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 489KB) Gweld fel HTML (263KB)

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(10.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

(10.00-11.00)

3.

Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Swyddfa Archwilio Cymru

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mike Usher – Cyfarwyddwr ac Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog, Swyddfa Archwilio Cymru

Richard Harries – Cyfarwyddwr, Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a'i swyddogion Mike Usher a Richard Harries ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru – 'Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru'.

 

(11.00-12.00)

4.

Gweithredu Darpariaethau Ariannol yn Neddf Cymru 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Mark Drakeford AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Dyfed Alsop - Cyfarwyddwr Cyflawni Awdurdod Cyllid Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 – Yr ail adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ynghylch gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014

 

Papur 3 – Tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – 9 Mawrth 2017

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a'i swyddogion Andrew Jeffreys a Dyfed Alsop ynghylch adroddiad Llywodraeth Cymru ar Weithredu Darpariaethau Cyllidol yn Neddf Cymru 2014 (Rhan 2).

4.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd ynghylch y fframwaith Cyllid a gytunwyd â Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2016.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

gweddill y cyfarfod heddiw a’r cyfarfod cyfan ar 29 Mawrth

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00-12.15)

6.

Gweithredu darpariaethau cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.15-12.25)

7.

Goblygiadau ariannol Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Papur 4 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol    Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - 17 Mawrth 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd.

 

(13.30-14.30)

8.

Sesiwn Ymgysylltu ag Ysgol Bassaleg

Cofnodion:

8.1 Aeth y Pwyllgor i Ysgol Bassaleg ar gyfer sesiwn ymgysylltu ynghylch pwerau cyllidol datganoledig.