Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
09.00 - 09.15 - Rhag-gyfarfod anffurfiol |
||
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. 2.2 Croesawodd y Cadeirydd Neil McEvoy AC, a oedd yn dirprwyo ar ran
Steffan Lewis AC. 2.3 Gwnaeth Neil McEvoy AC ddatganiad o fuddiant, a nododd y byddai'n
absennol o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 9. |
|
(09.15) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papur. |
|
(9.15-10.00) |
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth yr Alban (Cynhadledd Fideo) Alistair Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannol, Llywodraeth yr Alban Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth drwy gynhadledd fideo gan Alistair
Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannol Llywodraeth yr Alban. 4.2 Cytunodd Alistair Brown i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn egluro: ·
pam fod gwir gostau sefydlu Cyllid yr Alban yn uwch na'r amcangyfrif
gwreiddiol; a ·
sut y mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r weithdrefn gadarnhaol dros dro
ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau treth wedi'u hymgorffori yn Neddf Treth
Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yr Alban) 2013. |
|
(10.00-10.45) |
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Louise Speke, Prif Gynghorydd Treth, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Louise Speke, Prif Ymgynghorydd
Treth y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad. 5.2 Cytunodd Louise Speke i ddarparu nodyn yn amlinellu barn y Gymdeithas
Tir a Busnes Cefn Gwlad ar y gwahaniaethau rhwng darpariaethau'r Rheolau a
Dargedwyd yn Erbyn Osgoi Treth (TAAR) yn Neddf Treth Dir y Dreth Stamp 2015,
a'r Rheolau TAAR sydd wedi'u cynnig yn y Bil Treth Trafodiadau Tir a
Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). |
|
(11.00-11.45) |
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gofrestrfa Tir Joy Bailey, Cofrestrydd Tir Cynorthwyol, y Gofrestrfa Tir Pascal Lalande, Rheolwr Gweithrediadau Canolog, y Gofrestrfa Tir Papur 1 - Y Gofrestrfa Tir: tystiolaeth ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Joy Bailey, Cofrestrydd Tir
Cynorthwyol y Gofrestrfa Tir, a Pascal Lalande, Rheolwr Gweithrediadau Canolog
y Gofrestrfa Tir. 6.2 Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor gopi o'r adroddiad a
gomisiynwyd gan y Gofrestrfa Tir ynghylch nifer yr eiddo trawsffiniol sy'n
bodoli. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.45-12.00) |
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.00-12.30) |
Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Drafft Papur 2 - Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Nododd y Pwyllgor y papur, a chytunodd i ysgrifennu at Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
(12.30-12.45) |
Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru at y Cadeirydd - Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, Ebrill 2015 - Mawrth 2016 Papur 3 - Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, Ebrill 2015 -
Mawrth 2016 Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y
Cynulliad, Ebrill 2015 - Mawrth 2016. |