Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.10)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Yn dilyn etholiad ar 19 Medi 2018, croesawodd Llyr Gruffydd AC, fel Cadeirydd dros dro, yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd AC yn bresennol ar ei ran.

 

1.3        Mynychodd Helen Mary Jones AC y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.

 

1.4        Croesawodd y Cadeirydd dros dro Dr Ed Poole fel Ymgynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor yn ystod ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

 

(09.10-09.30)

2.

Cost Gofalu am Boblogaeth sy’n Heneiddio: trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft gyda rhai mân newidiadau.

 

(09.30-11.00)

3.

Cyfradd Treth Incwm Cymru: Brîff Technegol

Katharine Pottinger, Cyllid a Thollau EM

Jackie McGeehan, Cyllid a Thollau EM

Andy Fraser, Trysorlys Cymru

Julian Revell, Trysorlys Cymru

 

Papur 2 - Sesiynau briffio: gwaith craffu cyn y gyllideb ddrafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor frîff technegol ar Gyfradd Treth Incwm Cymru gan:

 

·         Katharine Pottinger, Pennaeth Treth Incwm Datganoledig, CThEM;

·         Jackie McGeehan, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Treth Incwm, CThEM;

·         Andy Fraser, Pennaeth y Strategaeth Dreth, Trysorlys Cymru;

·         Julian Revell, Pennaeth Dadansoddiad Cyllidol, Trysorlys Cymru.

 

(11.00-12.30)

4.

Sesiwn friffio: David Eiser

David Eiser, Cynghorydd i Bwyllgor Cyllid Senedd yr Alban a Chymrawd y Ganolfan ar Newid Cyfansoddiadol

 

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar oblygiadau datganoli treth incwm yn rhannol i graffu ar y gyllideb gan David Eiser, Ymgynghorydd i Bwyllgor Cyllid Senedd yr Alban a Chymrawd y Ganolfan ar Newid Cyfansoddiadol.

 

(12.30-12.40)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: trafod y briffiau

Dr Ed Poole, Cynghorwr Arbenigol

 

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y briffiau.