Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.15)

1.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar ôl gwneud rhai mân newidiadau.

 

1.2        Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.

 

(09.15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Nick Ramsay AC.

 

2.2 Croesawodd y Cadeirydd Mark Reckless AC a oedd yn dirprwyo dros Nick Ramsay AC.

 

(09.15)

3.

Papur(au) i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 

(09.15-10.15)

4.

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19: Sesiwn dystiolaeth

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Alison Gerrard, Aelod o'r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Hockridge, Pennaeth Cynllunio ac Adrodd, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 2 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2017-18

Papur 3 – Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Terfynol ar Ganfyddiadau'r Archwiliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018

Papur 4 – Gwneud i Arian Cyhoeddus Gyfrif: Cynllun Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2018-19

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Alison Gerrard, Aelod o’r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru a Matthew Hockridge, Pennaeth Cynllunio ac Adrodd, Swyddfa Archwilio Cymru am Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19.

 

 

 

(10.15-10.45)

5.

Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Alison Gerrard, Aelod o'r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 5 – Llythyr oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru at y Cadeirydd - Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 – 21 Mehefin 2018

Papur 6 – Cynigion am Fil i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Papur 7 – Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Alison Gerrard, Aelod o’r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru; a Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru am ystyried cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

(10.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45-10.55)

7.

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.55-11.00)

8.

Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.00-11.10)

9.

Trafod penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur 8 – Penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Swyddog Cyfrifyddu a nododd y telerau a’r amodau a’r trefniadau cydnabyddiaeth ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru nesaf.

 

(11.10-11.20)

10.

Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Papur 9 - Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

 

10.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a hynny yn ystod toriad yr haf, ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu’r Pwyllgor.

 

(11.20-11.50)

11.

Trafod proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb

Papur 10 – Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Nododd y Pwyllgor y papur ac ystyriodd y camau nesaf.

 

(11.50-12.05)

12.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 11 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1     Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.

 

12.2 Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.