Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Penderfynodd y Pwyllgor ar 31 Ionawr 2018 i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod.

09.45

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

 

(09.45-10.30)

2.

Trafod enwebiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Garner, Cadeirydd, Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 - Recriwtio Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ymhellach yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer yr enwebiad i fod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunodd i ymgynghori â chyrff sy'n cynrychioli buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag adran 2(3) Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

10.30-11.00

3.

Paratoadau ariannol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd: papur cwmpasu

Papur 2 - Paratoadau ariannol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd: Papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn cynnal ei ymchwiliad ynghylch paratoadau ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chytunodd i ystyried y cylch gorchwyl mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(11.30-12.15)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): sesiwn wybodaeth ar y cyd â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gasgliadau modelu diwygiedig y Sheffield Alcohol Research Group

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

 

Papur 3 – Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru sesiwn wybodaeth i'r Pwyllgor ar gasgliadau modelu diwygiedig y Sheffield Alcohol Research Group ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

 

(12.15-13.00)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Papur 4 – Nodyn Cyngor Technegol

Papur 5 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2018.