Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 489KB) Gweld fel HTML
(263KB) |
||
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. |
|
(10.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papur. |
|
(10.00-11.00) |
Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru Mike Usher – Cyfarwyddwr ac Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog,
Swyddfa Archwilio Cymru Richard Harries – Cyfarwyddwr, Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Paratoadau ar gyfer gweithredu
datganoli cyllidol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol
Cymru, a'i swyddogion Mike Usher a Richard Harries ynghylch adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru – 'Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng
Nghymru'. |
|
(11.00-12.00) |
Gweithredu Darpariaethau Ariannol yn Neddf Cymru 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Mark Drakeford AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys, Llywodraeth Cymru Dyfed Alsop - Cyfarwyddwr Cyflawni Awdurdod Cyllid Cymru, Llywodraeth Cymru Papur 2 – Yr ail adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ynghylch
gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 Papur 3 – Tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth
Leol – 9 Mawrth 2017 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a'i swyddogion Andrew Jeffreys a Dyfed
Alsop ynghylch adroddiad Llywodraeth Cymru ar Weithredu Darpariaethau Cyllidol
yn Neddf Cymru 2014 (Rhan 2). 4.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd ynghylch y fframwaith Cyllid a
gytunwyd â Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2016. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: gweddill y cyfarfod heddiw a’r cyfarfod cyfan ar 29
Mawrth Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00-12.15) |
Gweithredu darpariaethau cyllidol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.15-12.25) |
Goblygiadau ariannol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Papur 4 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a Llywodraeth Leol – Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - 17 Mawrth
2017 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd. |
|
(13.30-14.30) |
Sesiwn Ymgysylltu ag Ysgol Bassaleg Cofnodion: 8.1 Aeth y Pwyllgor i Ysgol Bassaleg ar gyfer sesiwn ymgysylltu ynghylch
pwerau cyllidol datganoledig. |