Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
11:15 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19,
ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
11:15-11:20 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 CLA(5)-13-20 –
Papur 1 – Adroddiad CLA(5)-13-20 –
Papur 2 – Gorchymyn CLA(5)-13-20 –
Papur 3 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-13-20 – Papur 4 – Llythyr gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 30 Mawrth 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)538 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 CLA(5)-13-20 –
Papur 5 – Adroddiad CLA(5)-13-20 –
Papur 6 – Gorchymyn CLA(5)-13-20 –
Papur 7 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-13-20 –
Papur 8 – Llythyr gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 14 Ebrill 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)539 – Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 CLA(5)-13-20 –
Papur 9 – Adroddiad CLA(5)-13-20 –
Papur 10 – Rheoliadau CLA(5)-13-20 –
Papur 11 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-13-20 –
Papur 12 – Llythyr gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 21 Ebrill 2020 CLA(5)-13-20 –
Papur 13 – Datganiad Ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
11:20-11:25 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(5)534 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 CLA(5)-13-20 –
Papur 14 – Adroddiad CLA(5)-13-20 –
Papur 15 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth. |
||
11:25-11:30 |
Papur(au) i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 CLA(5)-13-20 –
Papur 16 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 28 Ebrill 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r
Trefnydd. O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Suzy Davies AC
fuddiant. |
||
Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Fforwm Masnach Gweinidogol CLA(5)-13-20 –
Papur 17 – Llythyr gan
Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 29 Ebrill 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a
Chysylltiadau Rhyngwladol |
||
11:30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
11:30-12:00 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth – adroddiad drafft CLA(5)-13-20 –
Papur 18 – Adroddiad
Drafft CLA(5)-13-20 –
Papur 19 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 28 Ebrill 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod fersiwn â man newidiadau yn ystod ei gyfarfod ar 11 Mai. Nododd y Pwyllgor y dyddiad cau estynedig ar gyfer
cyflwyno adroddiad, sef 14 Mai, fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Busnes. |
|
Cyn cau'r cyfarfod, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, mai Carwyn Jones AC fyddai'r Cadeirydd Dros Dro pe bai'r Cadeirydd arferol yn gorfod gadael y cyfarfod am resymau technegol. |