Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/10/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

12.10

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

12.10-12.15

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-27-19 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)444 - Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019

CLA(5)-27-19 – Papur 2 - Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

2.2

SL(5)447 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
O dan Reol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiad o fuddiant gan Suzy Davies AC.

2.3

SL(5)445 - Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

12.15-12.20

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)446 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Cyfarpar Sefydlog) (Cymru) 2019

CLA(5)-27-19 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(5)-27-19 – Papur 4 – Rheoliadau

CLA(5)-27-19 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd â chyngor gan gyfreithiwr y Cynulliad ac ymateb y Llywodraeth, a chytunodd na ddylai ei adroddiad i'r Cynulliad gynnwys pwyntiau adrodd.

12.20-12.25

4.

Offerynnau a drafodwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn destun gwaith craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

CLA(5)-27-19 – Papur 6 – Adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

4.1

SL(5)449 - Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

12.25-12.30

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Llythyr gan yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd, Tŷ’r Arglwyddi: Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd

CLA(5)-27-19 – Papur 7 – Llythyr gan yr Arglwydd Kinnoull, 27 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Arglwydd Kinnoull a chytunodd i anfon ymateb ysgrifenedig. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Arglwydd Boswell, Cadeirydd blaenorol Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd, i ddiolch iddo am ei gefnogaeth.

5.2

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

CLA(5)-27-19 – Papur 8 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, 30 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am Wasanaeth Dim Smygu Cymru o Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r Byrddau Iechyd Lleol

CLA(5)-27-19 – Papur 9 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 30 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

12.30

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

12.30-13.00

7.

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Briff technegol

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru

Ken Alexander, Pennaeth Indemniad Proffesiynol Meddygon Teulu, Llywodraeth Cymru

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Cyfreithiwr - Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).