Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn newid ei enw i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020.

 

13.30-14.30

2.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwyr Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Eoghan O'Regan, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Chris Humphreys, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

 

CLA(5)-05-20 – Papur briffio

CLA(5)-05-20 – Papur 1 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 30 Ionawr 2020

CLA(5)-05-20 – Papur 2 - Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd, 27 Ionawr 2020

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)489 – Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020

CLA(5)-05-20 – Papur 3 – Adroddiad

CLA(5)-05-20Papur 4 – Rheoliadau

CLA(5)-05-20 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.

Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7

4.1

SL(5)490 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

CLA(5)-05-20 – Papur 6 – Adroddiad

CLA(5)-05-20 – Papur 7 – Cod Ymarfer

CLA(5)-05-20 – Papur 8 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Llythyr gan y Llywydd: Tynnu Offerynnau Statudol yn ôl

CLA(5)-05-20 – Papur 9 – Llythyr gan y Llywydd, 27 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

 

5.2

Llythyr gan y Prif Weinidog: Rhaglen OS Ymadael â’r UE

CLA(5)-05-20 – Papur 12 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 30 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

7.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

8.

Trafod ymchwiliad posibl yn y dyfodol

CLA(5)-05-20 - Papur 10 - Cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol

CLA(5)-05-20 – Papur 11 –Pwyllgor Busnes: Newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad posibl yn y dyfodol a chytunodd i ystyried y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.