Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/07/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-20-18 – Papur 1Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)233 - Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018

2.3

SL(5)235 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018

2.4

SL(5)236 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru

CLA(5)-20-18 – Papur 2Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y datganiad ysgrifenedig ar y Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch paragraff 20 y concordat.

 

3.2

Gohebiaeth mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael) a'r Cytundeb Rhynglywodraethol

CLA(5)-20-18 – Papur 3 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, 5 Gorffennaf 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Blaenraglen waith

CLA(5)-20-18 - Papur 4 - Blaenraglen waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Nododd y Pwyllgor fod angen i'r rhaglen ddarparu ar gyfer deddfwriaeth yn ymwneud â Brexit yn y dyfodol ac unrhyw Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol perthnasol, sifftio rheoliadau negyddol arfaethedig a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, craffu ar Filiau'r Cynulliad, a chraffu ar reoliadau a gorchmynion nad ydynt yn gysylltiedig â Brexit.  Serch hynny, mynegwyd siom nad oedd gan y Pwyllgor y gallu eto i fynd ar drywydd cynigion ar gyfer Bil Comisiynwyr a byddai'n ailystyried ymhellach yn yr hydref.

 

2.2

SL(5)234 - Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018