Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant |
|
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)192 - Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Diwygio) (Cymru) 2018 CLA(5)-08-18 – Papur 1 – Rheoliadau CLA(5)-08-18 – Papur 2 – Memorandwm Esboniadol CLA(5)-08-18 – Papur 3 – Adroddiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. |
|
SL(5)190 - Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 CLA(5)-08-18 – Papur 4 – Rheoliadau CLA(5)-08-18 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol CLA(5)-08-18 – Papur 6 – Adroddiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys pwynt ychwanegol ar gyfer adrodd yn ymwneud
ag anghysondeb rhwng y rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol mewn perthynas â
chydymffurfiaeth â Chodau PACE. Hoffai'r Pwyllgor gael ymateb gan y Llywodraeth
i'r pwynt hwnnw. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: adroddiad ar yr ymgynghoriad i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) gael mynediad at bwerau troseddol CLA(5)-08-18 – Papur 7 - Adroddiad
Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) gael
mynediad at bwerau troseddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Adroddiad drafft CLA(5)-08-18 – Papur 8 – Adroddiad Drafft Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |
|
Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) CLA(5)-08-18
– Papur 9 – briffio cyfreithiol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y briff cyfreithiol mewn perthynas â'r Bil a gyhoeddir
yn ddiweddarach yr wythnos hon. |