Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd - Dydd Llun, 22 Mai 2017 13.15
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 445KB) Gweld fel HTML |
||
13.15 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Datganiad agoriadol y Cadeirydd Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol yn talu teyrnged i'r diweddar Gwir
Anrhydeddus Rhodri Morgan, a fu farw yr wythnos diwethaf. |
|
13.15 |
Ymchwiliad i sicrhau llais cryfach i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 10 Paul Cairney, Athro Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus, yr Adran
Hanes a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Stirling CLA(5)-14-17 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: |
|
14.15 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-14-17 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)105 – Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017 |
||
SL(5)106 - Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017 |
||
SL(5)107 - Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017 |
||
SL(5)108 - Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017 |
||
SL(5)109 - Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt. |
||
14.20 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)110 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017 CLA(5)-14-17 – Papur 2 – Rheoliadau CLA(5)-14-17 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol CLA(5)-14-17 – Papur 4 – Adroddiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a bydd yn
cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad. |
||
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7 |
||
SL(5)104 - Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru CLA(5)-14-17 – Papur 5 – Cod Ymarfer CLA(5)-14-17 – Papur 6 – Adroddiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r
Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes ac Ysgrifenyddion y
Cabinet perthnasol yn ymwneud â'r geiriau 'dylai' a 'rhaid' yn y Cod ac yn y
Canllawiau Statudol – Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru. |
||
Papur i’w nodi |
||
Llythyr gan Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaethol Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Senedd Awstralia Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg
(Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017, a oedd ar gael ar ôl
cyhoeddi papurau'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor yr ymateb ac roedd yn fodlon â'r
sylwadau yn ymwneud â materion hawliau dynol o ran y terfyn oed. Fodd bynnag,
nid oedd y Pwyllgor yn teimlo bod yr ymateb yn mynd i'r afael yn llawn â
phryderon y Pwyllgor ynghylch carcharorion cymwys. Cytunodd y Pwyllgor i osod adroddiad atodol gerbron y Cynulliad ac i
ysgrifennu at y Llywodraeth ynghylch carcharorion cymwys. |
||
14.25 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Ymchwiliad Llais Cryfach i Gymru: trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
||
14.30 |
Bil y Diddymu Mawr: Trafodaeth CLA(5)-14-17 - Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil CLA(5)-14-17 – Papur 8 - Ymateb y Pwyllgor i Bwyllgor Gweithdrefn Tŷ’r Cyffredin: Bil y Diddymu Mawr Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â Phapur Gwyn Llywodraeth y DU ar
Fil y Diddymu Mawr. |