Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

14.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC.

 

14.30

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-27-18 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)260 – Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

2.2

SL(5)261 – Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018

2.3

SL(5)265 – Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018

2.4

SL(5)263 – Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018

2.5

SL(5)264 – Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

14.35

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)262 – Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-27-18 – Papur 3 – Gorchymyn

CLA(5)-27-18 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt technegol a nodwyd.

 

3.2

SL(5)267 – Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-27-18 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-27-18 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-27-18 – Papur 8 – Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd o ran rhinweddau.

 

3.3

SL(5)266 – Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 29Adroddiad

CLA(5)-27-18 – Papur 30Gorchymyn

CLA(5)-27-18 – Papur 31Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd o ran rhinweddau.

 

14.40

4.

Offerynnau statudol y mae angen cydsyniad arnynt yn unol â Rheol Sefydlog 30A – Ymadael â'r UE

4.1

SICM(5)4 – Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Amrywiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 9 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

CLA(5)-27-18 – Papur 10 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 nas gosodir gerbron y Cynulliad

CLA(5)-27-18 – Papur 11 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-27-18 – Papur 12 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-27-18 – Papur 13 – Rheoliadau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad yr Offeryn Statudol a chytunwyd yn y sesiwn breifat i gyhoeddi sylwadau ar wefan y Pwyllgor.

 

4.2

SICM(5)5 - Rheoliadau Ymchwiliadau a Chrwneriaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 14 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru

CLA(5)-27-18 – Papur 15 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 nas gosodir gerbron y Cynulliad

CLA(5)-27-18 – Papur 16 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-27-18 – Papur 17 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-27-18 – Papur 18 – Rheoliadau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad yr Offeryn Statudol a chytunwyd yn y sesiwn breifat i gyhoeddi sylwadau ar wefan y Pwyllgor.

 

 

14.50

5.

Datganiadau ysgrifenedig yn unol ag Offeryn Statudol 30C – Ymadael â'r UE

5.1

Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 19 - Datganiad

 

Dogfennau ategol:

5.2

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 20 - Datganiad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiadau ysgrifenedig a chytunodd yn y sesiwn breifat i gyhoeddi sylwadau ffeithiol ar wefan y Pwyllgor.

 

 

15.00

6.

Bil Amaethyddiaeth y DU: Sesiwn dystiolaeth

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig;

Tim Render, Llywodraeth Cymru; 

Peter McDonald, Llywodraeth Cymru.

 

CLA(5)-27-18 – Papur briffio

CLA(5)-27-18 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-27-18 – Papur 21 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 24 Medi 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 22 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 11 Hydref 2018

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

Ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod pedairochrog Gweinidogion y DU a gynhelir mewn pythefnos.  Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Amaethyddiaeth erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 14 Rhagfyr 2018.

 

16.00

7.

Gohebiaeth ynghylch Offerynnau Statudol cyfansawdd a chyd-Offerynnau Statudol

CLA(5)-27-18 – Papur 23 – Llythyr gan Charles Walker AS, Cadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefnau yn Nhŷ'r Cyffredin, 25 Hydref 2018.

CLA(5)-27-18 – Papur 24 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefnau, 15 Ionawr 2018.

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Charles Walker AS, Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru er mwyn trafod y mater ymhellach.

 

16.10

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Llythyr oddi wrth y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth: Y Bil Awtistiaeth

CLA(5)-27-18 – Papur 25 – Llythyr gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.2

Llythyr at y Pwyllgor Cyllid oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bondiau ar gyfer Gwariant Buddsoddiad Cyfalaf

CLA(5)-27-18 – Papur 26 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

8.3

Adroddiad Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi: Gohebiaeth: Deddfwriaeth ddirprwyedig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 27 - Adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

16.20

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

10.

Trafod y dystiolaeth: Bil Amaethyddiaeth y DU

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU.

 

11.

Offerynnau Statudol y mae angen Cydsyniad arnynt: Brexit a Datganiadau a wnaed o dan Reol Sefydlog 30C: Ymdrin â'r mater

CLA(5)-27-18 – Papur 28 – Ymdrin ag Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Brexit a Datganiadau a wneir o dan Reol Sefydlog 30C

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor sut yr ymdrinnir ag Offerynnau Statudol y mae angen cydsyniad arnynt yn unol â Rheol Sefydlog 30A a datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddir o dan Reol Sefydlog 30C a chytunwyd i gyhoeddi sylwadau ar wefan y Pwyllgor ar ôl ystyried pob offeryn statudol.

 

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ifori

CLA(5)-27-18 – Papur briffio

 

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ac yn nodi nodyn cyngor cyfreithiol mewn perthynas â'r Bil Ifori. Nid yw'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei gyfeirio'n ffurfiol i'r Pwyllgor ac felly ni fydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad arno.