Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Agorodd y
Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y
cyfarfod hwn. 1.2
Enwebwyd Dai Lloyd AC gan Lee Waters AC ac fe'i hetholwyd
yn Gadeirydd dros dro. 1.3
Croesawodd
y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.4
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC a Dawn Bowden AC. |
||
14.30 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-24-18 –
Papur 1 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)258 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua'r Dwyrain a'r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 Cofnodion: 2.1.1
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.35 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)257 - Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018 CLA(5)-24-18 – Papur 2 – Adroddiad CLA(5)-24-18 – Papur 3 - Rheoliadau CLA(5)-24-18 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1.1
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a nododd yr adroddiad drafft, gan gynnwys
ymateb Llywodraeth Cymru. Nid oedd y Pwyllgor yn fodlon ar lefel y manylder yn
ymateb y Llywodraeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
gofyn am eglurhad pellach. |
||
14.40 |
Papur(au) i'w nodi |
|
Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip - Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) CLA(5)-24-18
- Papur 5 - Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, 2 Hydref 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.1
Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
14.45 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) - Adroddiad drafft CLA(5)-24-18
– Papur 6 – Adroddiad drafft CLA(5)-24-18
- Papur 7 - Dogfen Porth Asesu Effaith Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a bydd yn ystyried fersiwn ddiwygiedig
yn ei gyfarfod ar 15 Hydref. |
||
15.15 |
Diweddariad ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor adran 116C CLA(5)-24-18 – Papur 8 - Papur diweddaru CLA(5)-24-18 – Papur 8a - Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 1 Mawrth 2018 CLA(5)-24-18
– Papur 8b – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 12
Ebrill 2018 CLA(5)-24-18 – Papur 8c - Llythyr gan
Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 24 Ebrill 2018 CLA(5)-24-18 – Papur 8d - Adroddiad y Pwyllgor Busnes Cofnodion: 7.1 Nododd
y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a Llywodraeth
Cymru. |