Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/10/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC. Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau newydd a benodwyd i'r Pwyllgor, sef Dawn Bowden AC, Lee
Waters AC a Suzy Davies AC. |
||
14.30 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 |
|
SL(5)256 - Cod Trefniadaeth Ysgolion CLA(5)-23-18 – Papur 1 – Adroddiad CLA(5)-23-18 – Papur 2 – Cod CLA(5)-23-18 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am wybodaeth ynghylch sut yr oedd
Gweinidogion Cymru wedi ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r
Plentyn (yn unol ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011). |
||
14.35 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Diweddariad ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud ag Offerynnau Statudol Brexit Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor bapur diweddaru ar y newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog sy'n
ymwneud ag Offerynnau Statudol Brexit. |
||
Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan y Bil Masnach: Adroddiad Drafft CLA(5)-23-18
– Papur 5 –
Adroddiad drafft Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau. |