Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mandy Jones AC.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-21-18 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)238 - Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018

2.2

SL(5)244 - Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018

2.3

SL(5)245 - Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)237 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-21-18 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-21-18 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

 

3.2

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-21-18 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-21-18 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor fod y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at ymgynghoriad a wnaed, ond nid oes crynodeb o'r ymgynghoriad ar gael. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am eglurhad.

 

3.3

SL(5)240 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-21-18 – Papur 9 – Rheoliadau

CLA(5)-21-18 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth yn datgan yn ei hymateb nad oes newid polisi, fodd bynnag, dywed yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, mewn perthynas â rheoliadau 8 a 9, fod y rheoliad wedi cael ei wneud yn fwy caniataol. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am eglurhad.

 

3.4

SL(5)248 - Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Dirymiadau Amrywiol) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 11 – Adroddiad

CLA(5)-21-18 – Papur 12 – Rheoliadau

CLA(5)-21-18 – Papur 13 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith nad yw'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at pam y gwneir yr offeryn yn Saesneg yn unig. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad.

 

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 27

4.1

SL(5)246 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Cŵn

CLA(5)-21-18 – Papur 14 - Adroddiad

CLA(5)-21-18 – Papur 15 – Cod Ymarfer

CLA(5)-21-18 – Papur 16 – Memorandwm Esboniadol

 

 

 

Dogfennau ategol:

4.2

SL(5)247 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ceffylau

CLA(5)-21-18 – Papur 17 - Adroddiad

CLA(5)-21-18 – Papur 18 – Cod Ymarfer

CLA(5)-21-18 – Papur 19 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Codau Ymarfer a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â'r DU yn ymadael â'r UE.

 

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

5.1

SL(5)241 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 20 - Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

5.2

SL(5)242 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 21 - Adroddiad

 

 

Dogfennau ategol:

5.3

SL(5)251 - Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 22 - Adroddiad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at y materion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

6.

Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

6.1

SICM(5)3 - Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 23  – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-21-18 – Papur 24 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y Memorandwm Caniatâd Offeryn Statudol ac, o dan yr amgylchiadau, roedd yn fodlon gyda'r dull a fabwysiadwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr at y Llywydd gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

CLA(5)-21-18 – Papur 25 – Llythyr at y Llywydd gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, 10 Gorffennaf 2018

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Llywydd ynghyd â'r llythyr a gafwyd gan y Gweinidog yn gynharach y diwrnod hwnnw (wedi'i gylchredeg mewn copi caled) mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor. Nododd yr aelodau fod y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil wedi'i threfnu ar gyfer y diwrnod canlynol, sef 18 Medi. Cytunodd yr Aelodau pe bai ystyriaeth bellach y Gweinidog o argymhellion y Pwyllgor yn arwain at wneud newidiadau sylweddol i'r Bil, efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno ystyried y Bil ar adeg briodol.

 

7.2

Llythyr at Arweinydd y Tŷ ynghylch Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 – rheoliadau a wneir o dan Atodlen 4

CLA(5)-21-18 – Papur 26 – Llythyr at Arweinydd y Tŷ, 11 Gorffennaf 2018

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ ynglŷn â rheoliadau Atodlen 4 ac ymateb gan Arweinydd y Tŷ a gafwyd yn gynharach y diwrnod hwnnw (wedi'i gylchredeg mewn copi caled).

 

7.3

Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ynghylch rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 27 – Llythyr gan Arweinydd y Tŷ, 20 Gorffennaf 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ.

 

7.4

Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ynghylch rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 28 – Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, 28 Awst 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ, a chytunodd i ymateb i Arweinydd y Tŷ maes o law.

 

7.5

Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch Concordat gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru

CLA(5)-21-18 - Papur 29 – Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, 11 Gorffennaf 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 30 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, 14 Awst 2018

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am gopi o'r canllawiau cyfatebol unwaith y cânt eu cwblhau.

 

7.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Cyfnod Pontio Brexit

CLA(5)-21-18 – Papur 31 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 20 Gorffennaf 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o'r Cytundeb Rhyng-Sefydliadol drafft y mae'n ei ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

 

7.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol

CLA(5)-21-18 - Papur 32 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 17 Gorffennaf 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

7.8

Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgorau: Senedd@

CLA(5)-21-18 – Papur 33 – Llythyr gan y Llywydd, 18 Gorffennaf 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

 

7.9

Datganiad Ysgrifenedig a Thystiolaeth Ategol Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

CLA(5)-21-18 – Papur 34 – Datganiad Ysgrifenedig a thystiolaeth ategol Llywodraeth Cymru, 31 Awst 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r dystiolaeth atodol i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

 

7.10

Cymdeithas Frenhinol Caeredin - Papur cynghori Awst 2018: Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban Fframweithiau Cyffredin y DU

CLA(5)-21-18 – Papur 35 - The Royal Society of Edinburgh – Papur cynghori Awst 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur cynghori gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin.

 

7.11

Datganiadau: Cyflwyno Bil Amaethyddiaeth y DU

CLA(5)-21-18 – Papur 36 Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: cyflwyno Bil Amaethyddiaeth y DU

CLA(5)-21-18 – Papur 37Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru: hynt y fframwaith amaethyddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiadau a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 

7.12

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Materion Gweithredol

CLA(5)-21-18 – Papur 38 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

9.

Protocol Drafft gyda Llywodraeth Cymru - Craffu ar Reoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

CLA(5)-21-18 – Papur 39 – Protocol Drafft

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y protocol drafft a chytunodd ar y camau nesaf.

 

10.

Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU y mae arnynt angen Cydsyniad y Cynulliad: arfer yn sgil Brexit

CLA(5)-21-18 – Papur 40 - Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU y mae arnynt angen Cydsyniad y Cynulliad

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dull a fabwysiadwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Memoranda Caniatâd Offerynnau Statudol sy'n ymwneud â deddfwriaeth Brexit a chytunodd arno.

 

11.

Deddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE: Diweddariad

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.

 

12.

Adroddiad gan Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin - Crynodeb

CLA(5)-21 – 18 – Paper 42 - Crynodeb

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y crynodeb.

 

13.

Blaenraglen Waith

CLA(5)-21-18 – Papur 43 – Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.