Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Dirprwy Glerc: Sian Giddins

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(14.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.30 - 14.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

2.1

SL(5)024 - Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymiad) 2016

CLA(5)-11-16 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

(14.35 - 14.40)

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)020 - Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

CLA(5)-11-16 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-11-16 – Papur 3 – Rheoliadau [Saesneg yn unig]

CLA(5)-11-16 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig]

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau adrodd a godwyd.

3.1b Cytunoddd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad a phwysleisiodd bwysigrwydd cadw safonau uchel mewn deddfwriaeth ddwyieithog.

 

(14.40 - 14.45)

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a'r Llywydd: Apwyntiad Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru

CLA(5)-11-16 - Papur 5 – Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i’r Llywydd,  27 Hydref 2016

CLA(5)-11-16 - Papur 6 - Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i’r Llywydd, Atodiad

CLA(5)-11-16 - Papur 7 - Gohebiaeth gan y Llywydd i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, 8 Tachwedd 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(14.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.45 - 15.15)

6.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-11-16 - Papur 8 - Adroddiad drafft [Saesneg yn unig]

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.