Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 360KB) Gweld
fel HTML (79KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Dai Lloyd oedd yn
dirprwyo ar ei ran. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-04-16 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.0a Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt. |
|
SL(5)007 - Rheoliad Bwyd at gyfer Grwpiau Penodol (Gwybodaeth a Gofynion Cyfansoddiadol) (Cymru) 2016 |
|
SL(5)010 - Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 |
|
SL(5)011 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2016 |
|
SL(5)012 - Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwi Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru) 2016 |
|
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 Cofnodion: 3.0a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r
Cynulliad. |
|
SL(5)013 - Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 CLA(5)-04-16 – Papur 2 – Adroddiad CLA(5)-04-16 – Papur 3 – Rheoliadau CLA(5)-04-16 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig] Dogfennau ategol: |
|
Papur(au) i'w nodi: |
|
Bil Cymru: Gohebiaeth gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd Gwladol Cymru CLA(5)-04-16 - Papur 5 - Gohebiaeth gan y Pwyllgor at
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 5 Gorffennaf 2016 CLA(5)-04-16 - Papur 6 - Gohebiaeth gan y Pwyllgor at
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 18 Awst 2016 CLA(5)-04-16 - Papur 7 - Gohebiaeth gan y Ysgrifennydd Gwladol
Cymru at y Pwyllgor, 7 Medi 2016 [Saesneg yn unig] Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd ar y modd y byddai’n ceisio
sicrhau cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol i drafod Bil Cymru. |
|
Bil Cymru: Gohebiaeth gyda Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi CLA(5)-04-16 - Papur 8 - Gohebiaeth i Bwyllgor Cyfansoddiad
Tŷ'r Arglwyddi, 14 Gorffennaf 2016 [Saesneg yn unig] CLA(5)-04-16 - Papur 9 - Gohebiaeth gan Bwyllgor
Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, 20 Gorffennaf 2016 [Saesneg yn unig] Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i gyfarfod â Phwyllgor
Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar 12 Hydref i drafod Bil Cymru. |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer is-deddfwriaeth i gefnogi Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a dogfennau canllaw amrywiol ar arfer gorau CLA(5)-04-16 - Papur 10 - Datganiad Ysgrifenedig gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, 11 Gorffennaf 2016 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a Nododd y Pwyllgor y datganiad a chytunodd i ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn croesawu’r dull o
weithredu a amlinellir yn y datganiad. |
|
SL(5)005 - Rheoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig CLA(5)-04-16 - Papur 11 - SL(5)005 - Rheoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau
Amrywiol) (Cymru) 2016 - Gohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, 13 Gorffennaf
2016 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi drachefn
bryderon y Pwyllgor blaenorol ynghylch rheoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth
sylfaenol drwy ddefnyddio’r weithdrefn negyddol yn hytrach na'r weithdrefn
gadarnhaol. |
|
Gohebiaeth gan y Llywydd: Datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn CLA(5)-04-16
- Papur 12 - Gohebiaeth gan y Llywydd, 21 Gorffennaf 2016 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd
yn cytuno y dylid integreiddio gwaith y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgor ymhellach. 4.5b Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am amser i baratoi datganiad am ei waith ar
Fil Cymru cyn ei ymweliad â Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi. |
|
Cylchoedd gwaith y Pwyllgorau: Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol CLA(5)-04-16 - Papur 13 - Gohebiaeth gan y Llywydd i'r
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 22 Gorffennaf 2016 CLA(5)-04-16 - Papur 14 - Gohebiaeth gan y Llywydd i'r
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 25 Awst 2016 CLA(5)-04-16 - Papur 15 - Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar
adolygu cylch gorchwyl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.6a Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: (vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion
adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan
unrhyw berson; (ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor, neu
fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
Bil Cymru: Briff a diweddariad cyfreithiol CLA(5)-04-16 – Papur 16 - Papur diweddaru [Saesneg yn unig] CLA(5)-04-16 – Papur 17 - Briff cyfreithiol [Saesneg yn unig] CLA(5)-04-16 – Papur 18 - Briff cyfreithiol [Saesneg yn unig] Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio cyfreithiol a’r wybodaeth ddiweddaraf
am Fil Cymru. |
|
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Ffyrdd o weithio CLA(5)-04-16 - Papur 19 - Ffyrdd o weithio [Saesneg yn unig] Cofnodion: 7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei ffyrdd o weithio a chytunodd i drafod y
mater eto maes o law. |