Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-930 Deiseb ar gyfer Meddygfa Glanyfferi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, yng ngoleuni’r ffaith bod y feddygfa
bellach wedi cau ac na chafwyd dim rhagor o wybodaeth gan y deisebwyr, nad oedd
ganddo fawr o ddewis ond cau’r ddeiseb. |
|
P-05-933 Gwahardd Pysgod Aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair #OperationGoldfish Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i: ·
ofyn iddi ystyried
cyfeirio’r mater hwn at Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru i gael
cyngor; ·
geisio cael
eglurhad ynghylch y posibilrwydd o fynd i’r afael â’r mater hwn drwy’r
Rheoliadau sydd i ddod i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangosfeydd o Anifeiliaid;
a ·
gofyn am
ddiweddariad o ran pryd fydd Llywodraeth Cymru wedi cael ymateb gan y Showmen’s
Guild ynghylch hunanreoleiddio’r arfer hwn, gan gynnwys copi o’r ymateb. |
|
P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Gyngor Blaenau Gwent
i ofyn am ei farn ar y ddeiseb a darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, yr heriau
a wynebir a’u cynlluniau ar gyfer gwella gwasanaethau, ynghyd ag unrhyw
gyfleoedd a allai godi yn sgîl Bil Bysiau (Cymru) yn y dyfodol; ac ·
ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i
ofyn am ei farn ar y materion a godwyd. |
|
P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu’n ôl at Ddirprwy
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am eglurhad ar aelodaeth Grŵp y Tasglu, ac i ofyn sut y bydd
pobl â phrofiad byw a sefydliadau sy’n eu cefnogi yn cymryd rhan yn y gwaith
hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu awgrymiadau’r deisebwyr gyda’r Dirprwy
Weinidog; ac ·
ysgrifennu at sefydliadau eraill
sydd â diddordeb yn y mater hwn, fel RNIB Cymru, Living Streets, Sustrans ac
Anabledd Cymru i ofyn am eu barn. |
|
P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i: o
ofyn am gopi o’r llythyr gan
Bwyllgor Sgrinio Cymru at Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn gofyn
am eglurhad ar y rhesymeg dros ddod â sgrinio i ben yn 74 oed, ac ymateb UKNSC
pan dderbynnir ef; o
gofyn a yw costau ymestyn sgrinio
ar ôl 74 oed, naill ai ar sail poblogaeth neu ar ffurf hunan-atgyfeirio, wedi
cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru hyd yma; a o
gofyn am esboniad pellach ar y
datganiad yn llythyr y Gweinidog fod “gan bob rhaglen sgrinio y potensial i
wneud niwed”; ac ·
ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn a Bowel Cancer UK i ofyn am eu
barn ar y ddeiseb. |
|
P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
Ofyn am friff cyfreithiol ar
newidiadau posibl i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006; ac ·
aros am farn y deisebwyr ar yr
ymateb a roddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
aros am gyhoeddi’r wybodaeth lefel
uchel am reoli asbestos mewn ysgolion, gyda’r bwriad o ddod â’i ystyriaeth o’r
ddeiseb i ben ar ôl i hyn gael ei wneud; ac ·
aros am farn y deisebwyr ar yr
ymateb a roddwyd gan y Gweinidog. |
|
P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau
bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg
(Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn a
chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn
adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi
ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod
penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn
ystod y tymor. |
|
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau
teuluol yn ystod tymor yr ysgol a
chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn
adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi
ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod
penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn
ystod y tymor. |
|
P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth, a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith
bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu ei chanllawiau ar bresenoldeb
mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r
ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg bod cyflwyno’r posibilrwydd o gofnodi
absenoldebau fel rhai sy’n gysylltiedig â chyflwr iechyd cronig yn cael ei
ystyried fel rhan o’r gwaith hwnnw. |
|
P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddarparu’r wybodaeth a ddaeth i law hyd
yma a gofyn a fyddai’r Pwyllgor hwnnw’n ei ystyried fel rhan o unrhyw waith
pellach y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwn. |
|
P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg
yn y Cartref! a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Gomisiynydd Plant
Cymru i ofyn am ei barn ar y materion a godwyd a sut, yn ei barn hi, y gellir
sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng y buddion sy’n cystadlu o ran y mater hwn; ·
gofyn am ragor o dystiolaeth
ysgrifenedig gan gyrff sy’n cynrychioli addysg yn y cartref yng Nghymru; ac ·
yn dilyn hyn, gwahodd y Gweinidog
Addysg i ddarparu tystiolaeth gerbron cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol. |
|
P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-922
Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref a
chytunwyd i: ·
ysgrifennu at
Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y materion a godwyd a sut, yn ei
barn hi, y gellir sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng y buddion sy’n cystadlu o
ran y mater hwn; ·
gofyn am ragor o
dystiolaeth ysgrifenedig gan gyrff sy’n cynrychioli addysg yn y cartref yng
Nghymru; ac ·
yn dilyn hyn,
gwahodd y Gweinidog Addysg i ddarparu tystiolaeth gerbron cyfarfod o’r pwyllgor
yn y dyfodol. |
|
P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a
chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o
wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu
ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu
adnoddau ychwanegol ei hun. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i longyfarch y deisebydd ar ei waith yn cyflawni gwelliannau o
ran gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. |
|
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408
Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunwyd i
gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau
anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion
y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau
ychwanegol ei hun. |
|
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn bod y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd gan
Chwarae Cymru a’r Comisiynydd Plant yn cael eu hystyried yn ffurfiol fel rhan
o’r Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru; ac ·
ysgrifennu eto at Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymateb i’r materion a godwyd gan y ddeiseb a
gofyn sut mae’r Gymdeithas yn ymateb i ddisgwyliadau awdurdodau lleol, a
amlinellwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru. |
|
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a’r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi’i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â
gweinyddiaethau eraill y DU ynghylch sicrhau cydraddoldeb o ran buddion y
cynllun, a phwyso am ddatrys y mater hwn ar frys. |
|
P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy’r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed wrth
weithredu sganio mpMRI yng Nghymru. |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy’n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb gyda’r bwriad
o’i chyfeirio at y Pwyllgor sy’n gyfrifol am ystyried deisebau yn y Chweched
Cynulliad, unwaith y bydd y gwerthusiad llawn o gynllun peilot Prosiect y
Goleudy o’r model Tŷ
Plant wedi’i
gyhoeddi yn 2021. |
|
P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried y ffaith bod
Ward 35 wedi cau yn haf 2019 ac na ellir cyflawni amcanion y ddeiseb mwyach,
a’r diffyg cyswllt â’r deisebydd. |
|
P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn am ei ymateb i’r materion a godwyd ac i ofyn
am ragor o wybodaeth am statws cyfredol y newidiadau a weithredwyd o dan Raglen
De Cymru; a ·
gwahodd y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fod yn
bresennol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol, unwaith y bydd y Pwyllgor yn
dechrau ystyried y ddeiseb ar newidiadau i’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys
yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. |
|
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am amser i
ddadl gael ei chynnal ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu llythyr manwl at y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i amlinellu’r dystiolaeth a ddaeth i law ac i
ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynhyrchu canllawiau neu argymhellion
ychwanegol ar ddefnyddio Byrddau A. |
|
P-05-894 Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng
ngoleuni boddhad y deisebwyr â’r mesurau a gyflwynwyd drwy’r Cynllun Rhyddhad
Ardrethi’r Stryd Fawr. |
|
P-05-897 Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn anodd gweld sut y gellid symud y
mater ymlaen heb gyswllt a gwybodaeth bellach gan y deisebydd. |
|
P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud
Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a chytunwyd i gau’r
deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi
diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y
Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a
newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser. |
|
P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr P-05-775
Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y
gyfraith trwyddedu tacsis a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd
newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae
Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser. |
|
P-05-886 Stopio’r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Aelodau
eu buddiannau perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: ·
Mae Jack Sargeant wedi datgan yn
flaenorol ei gefnogaeth i’r cynllun. ·
Mae Michelle Brown wedi datgan yn
flaenorol ei gwrthwynebiad i’r cynllun. Ystyriodd y
Pwyllgor dystiolaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth i godi nifer o faterion pellach mewn perthynas â’r cynllun. |
|
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i groesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud ac
i ofyn iddi ystyried cyflwyno deddfwriaeth neu reoliadau newydd ar gyfer
llywodraethu cynaeafu cyllyll môr, ar y llinellau a gynigiwyd gan y deisebydd,
ar ôl cwblhau’r astudiaethau cyfredol. |
|
P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r
newidiadau a wnaed i Drwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys
cael gwared ar rywogaethau rhestredig coch ac ambr, a’r Adolygiad Trwyddedu
Adar Gwyllt ehangach sy’n cael ei gynnal yn 2020. |
|
P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith
bod oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn gallu cyrchu gwersi am ffi cwrs safonol, ac
mae gostyngiadau ar gael i ddysgwyr ar incwm isel a chymorth ariannol i helpu i
leihau rhwystrau eraill. |
|
P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y mater a dychwelyd at y
ddeiseb pan fyddant yn dechrau ystyried deiseb debyg Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin
o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, yn ystod
y misoedd nesaf. |
|
P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb yng ngoleuni bwriad y Pwyllgor Safonau i wneud rhagor
o waith ar y mater hwn ac i nodi cynnig ar gyfer y Chweched Cynulliad, ynghyd â
diffyg cyswllt diweddar â’r deisebwyr. |