Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Leanne Wood. Roedd Dai Lloyd AC yn dirprwyo ar ran Leanne Wood AC.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu unwaith yn rhagor at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i groesawu’r cadarnhad bod bwriad i wneud gwelliannau i gael mynediad yng ngorsaf Trefforest, a gofyn pryd mae’n disgwyl i’r rhain gael eu cwblhau, a beth yw’r dewisiadau sydd ar gael i deithwyr anabl yn y cyfamser.

 

2.2

P-05-919 Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gadarnhad o benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y cynllun trwyddedu terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar.

 

2.3

P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         aros am farn bellach gan y deisebydd i’r ymateb a roddwyd gan y Gweinidog Addysg; ac

·         ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am wybodaeth am y dull a ddefnyddir gan awdurdodau lleol wrth ddyrannu cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

 

 

2.4

P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         grwpio’r ddeiseb gyda’r ddeiseb P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu unwaith yn rhagor at y Gweinidog Addysg i ofyn am fanylion y gyfradd ymateb i’r ymgynghoriad, ac i gael syniad o’r amserlenni arfaethedig ar gyfer pennu’r camau nesaf.

 

Mynegodd Janet Finch-Saunders AC ddiddordeb fel aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd wedi edrych ar y mater hwn.

 

2.5

P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         grwpio’r ddeiseb gyda’r ddeiseb P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol; a

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg unwaith yn rhagor i ofyn am fanylion y gyfradd ymateb ir ymgynghoriad, am gadarnhad y caiff y farn gyfreithiol a ddarparwyd gan y deisebwyr ei hystyried gan Lywodraeth Cymru, ac i gael syniad or amserlenni arfaethedig ar gyfer pennur camau nesaf.

 

Mynegodd Janet Finch-Saunders AC ddiddordeb fel aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd wedi edrych ar y mater hwn.

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyhoeddi gwybodaeth lefel uchel am reoli asbestos mewn ysgolion, fel y cyfeiriwyd ati yn ei gohebiaeth flaenorol.

 

 

3.2

P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran yr amseriadau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a

·         gofyn barn ddiweddaraf y Llywodraeth o ran disgresiwn Penaethiaid i awdurdodi absenoldebau ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor, pan fydd hynny’n briodol

 

3.3

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael Gwyliau Teulu yn ystod Amser Tymor a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran yr amseriadau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a

·         gofyn am farn ddiweddaraf y Llywodraeth mewn perthynas â disgresiwn penaethiaid i awdurdodi absenoldebau ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor, pan fydd hynny’n briodol.

 

 

3.4

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran amseriadau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

3.5

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn iddo drefnu cyfarfod â’r deisebydd ynghylch y gwasanaethau cymorth a ddarperir i deuluoedd â phlant ag anableddau, fel y cytunwyd yn flaenorol, a gofyn i’r Bwrdd ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf unwaith y bydd hyn wedi digwydd.

 

 

3.6

P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd Dai Lloyd ddiddordeb gan fod ei ferch-yng-nghyfraith yn feddyg yn Ysbyty’r Tywysog Phillip.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i oedi o ran y ddeiseb, ac ystyried unrhyw ddatblygiadau ymhen 6 mis arall, yn unol â chais y deisebwyr, a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i lywio’r drafodaeth honno.

 

3.7

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy’r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa drefniadau y byddai’n disgwyl eu bod ar waith ar gyfer cleifion y mae angen iddynt gael archwiliadau mewn byrddau iechyd sydd eto i weithredu sganiau mpMRI cyn biopsi fel yr argymhellwyd gan y canllawiau NICE diwygiedig.

 

3.8

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i’w chau yng ngoleuni’r ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd, a llongyfarchodd y deisebwyr am eu gwaith wrth geisio cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

 

3.9

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ymateb uniongyrchol i alwad y ddeiseb am ymchwiliad annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn benodol.

 

3.10

P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r cynnig ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i roi dewis i awdurdodau lleol o ran y system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol, a’r gwaith craffu a gaiff ei gymhwyso i hyn gan y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb .

 

 

3.11

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach.

 

3.12

P-05-843 Rhagor o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Dai Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y gorffennol.

 

O ystyried bod y cynnig o ran hawliau apelio trydydd parti wedi’i wrthod gan Lywodraeth Cymru - fel yr oedd yn ystod ystyriaeth flaenorol a roddwyd i’r mater hwn wrth graffu ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 - mae’n anodd gweld sut y gall y Pwyllgor weithredu ymhellach ar y ddeiseb. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyfraniadau i’r broses.

 

 

 

3.13

P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Dai Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y gorffennol.

 

Yn absenoldeb tystiolaeth am wrthdaro buddiannau, a’r wybodaeth am y mesurau diogelwch presennol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

 

3.14

P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried yr ansicrwydd cyfredol ynghylch perthynas y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a’r cyfyngiadau ar bwerau Llywodraeth Cymru i weithredu ar hyn o bryd, sy’n deillio o hynny, cytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am ragor o wybodaeth ymhen chwe mis, neu’n gynt os bydd y sefyllfa’n newid.

 

3.15

P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn pa ganllawiau a ddarperir i gynghorau cymunedol a chynghorau tref o ran gallu’r cyhoedd neu newyddiadurwyr i recordio cyfarfodydd.

 

 

3.16

P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac, yn benodol, y cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i ddeddfwriaeth.

 

 

3.17

P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac, yn benodol, y cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i ddeddfwriaeth.

 

 

 

3.18

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach ac yng ngoleuni camau a amlinellwyd yn flaenorol gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

 

 

 

3.19

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog y Gymraeg i roi sylwadau diweddaraf y deisebydd iddi, ac i ofyn am ei hymateb i’r amgylchiadau penodol a amlygwyd.

 

3.20

P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n  ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i godi’r pwyntiau pellach a wnaed gan y deisebydd ac i ofyn sut y gallai Llywodraeth Cymru geisio darparu naratif ehangach i’r amrywiaeth o fentrau sy’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hanes Cymru.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5 o’r cyfarfod heddiw ac Eitem 1 o'r cyfarfod ddydd Mawrth 7 Ionawr 2020

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

5.

Newyddlen y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i dreialu cyhoeddi newyddlen ar gyfer pob tymor.