Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

(9:00-9:40)

2.

Sesiwn Dystiolaeth P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg

Neil Welch - Pennaeth Ymgysylltu â'r Gweithlu, Llywodraeth Cymru

Gail Deane - Uwch-reolwr Polisi, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Neil Welch.

3.

Deisebau newydd

3.1

P-05-868 Diogelwch Dŵr, Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rannu'r wybodaeth bellach a gafwyd gan y deisebwyr a gofyn am ei hymateb i'r cynigion, gan gynnwys y cynnig am Gynllun Diogelwch Dŵr i Gymru.

3.2

P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am fanylion polisi a chamau gweithredu cyfredol Llywodraeth Cymru a GIG Cymru mewn perthynas â chanfod anhwylderau calon ymhlith pobl ifanc nad ydynt eto wedi cael diagnosis.

3.3

P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:

·         rhannu sylwadau'r deisebydd, a gofyn am eglurhad ynghylch y cyfeiriad yn y safonau dylunio at beidio â rhoi cyfleusterau newid cewynnau mewn toiledau ar gyfer 'y ddwy ryw';

·         gofyn pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o'r strategaethau toiledau lleol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol;

·         gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau â'r sector preifat, neu â chyrff cynrychioliadol, ynghylch darparu cyfleusterau newid cewynnau mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd; a 

·         gofyn am wybodaeth am gamau gweithredu perthnasol a gymerwyd yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2012, Goblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus.

3.4

P-05-872 Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i rannu manylion y ddeiseb mewn perthynas â'u hymchwiliad cyfredol i gyllid ysgolion, a chytunodd i gadw golwg ar ymchwiliad y Pwyllgor hwnnw.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys WrecsamYsbyty Wrecsam Maelor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chytunodd i dderbyn eu cynnig i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ymhen chwe mis.

4.2

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar ddatblygiadau yng Nghymru a ledled y DU. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y posibilrwydd o roi trwydded y Goron yn unol â darpariaethau a wneir yn Neddf Patentau 1977 i wneud defnydd posibl o'r patent ar gyfer Orkambi heb awdurdodiad y deiliad y patent, os na ellir goresgyn y maen tramgwydd yn y trafodaethau.

4.3

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddi ystyried ychwanegu at ganllawiau sy'n cyd-fynd â grantiau chwarae yn y dyfodol i sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol lleol yn cael budd digonol o gyllid o'r fath.

4.4

P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y mater hwn yng ngoleuni'r gwaith craffu parhaus y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei wneud yn sgil ei adroddiad Cadernid Meddwl a bodolaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogion ar y Cyd.

4.5

P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i ailagor Ffordd y Goedwig yng ngwanwyn 2020.

4.6

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng NJgerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ymhen chwe mis.

4.7

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         gofyn am restr o aelodaeth y gweithgor a chadarnhad o'i deitl a'i gylch gorchwyl terfynol;

·         cynnig y dylai aelodaeth y grŵp gynnwys cynrychiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a/neu wyddonydd/gwyddonwyr annibynnol; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng y gwaith hwn a'r Gweithgor Iechyd ar Amaethyddiaeth Ddwys.

 

4.8

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:

  • ysgrifennu at grwpiau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ofyn am eu barn am y ddeiseb; a
  • gofyn am bapur cyfreithiol yn egluro pwerau cyfreithiol y comisiynwyr.

 

4.9

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-803 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.

 

4.10

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-750 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.

 

4.11

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-750 a P-05-803, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.

 

4.12

P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:

  • ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb i gynnig penodol y deisebydd ar gyfer fframwaith gwrth-fwlio ar gyfer Cymru gyfan, a fyddai'n cynnwys gofynion cyfreithiol cryfach ar gyfer ysgolion, ac yn ymwneud â chofnodi achosion o fwlio yn benodol; ac
  • ysgrifennu at Senedd Ieuenctid Cymru i'w gwneud yn ymwybodol o'r ddeiseb gyfredol a gofyn am farn yr Aelodau am fwlio mewn ysgolion.

 

 

4.13

P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd, er ei fod yn cydymdeimlo'n fawr â thrigolion Llangenni yn y mater hwn, y byddai'n cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos yn bosibl gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â gwasanaethau band eang yn Llangenni ar hyn o bryd.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

6.

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i:

  • ysgrifennu at sefydliadau eraill megis CLlLC, NUT, NASUWT a NAHT i gael eu barn am y ddeiseb; a
  • gofyn am farn y deisebydd am y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog.