Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

2.2

P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am fanylion am y canlynol:

  • rhagor o wybodaeth am y fformwla a ddefnyddir i ddyrannu arian i bob awdurdod lleol o dan yr EIG a'r trefniadau trosiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar;

 

  • manylion am ba waith ymgynghori sydd wedi'i wneud gyda chynghorwyr neu randdeiliaid cyn y penderfyniad i brif ffrydio cymorth i ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr;

 

  • sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro effaith y newid hwn a'r ddarpariaeth cymorth parhaus gan awdurdodau lleol.

 

 

2.3

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Amgylchedd i ofyn iddi am y canlynol:

o   a fyddai'n ystyried rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar wahardd defnyddio gwellt plastig gyda llaeth yn yr ysgol;

o   darparu rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gyda chyflenwyr y cyfeiriwyd atynt yn ei llythyr;

o   rhoi gwybod i'r Pwyllgor a yw unrhyw un o'r prosiectau peilot yn y cynghorau yn fesurau archwilio penodol i leihau neu gael gwared ar y defnydd o wellt plastig mewn ysgolion; ac

·         ysgrifennu at CLlLC i ofyn am eu barn ar y ddeiseb ac i ofyn pa arweiniad a gymerwyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i helpu i leihau neu gael gwared ar y defnydd o wellt plastig.

 

 

2.4

P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

o   rhagor o wybodaeth am statws presennol ymrwymiadau blaenorol i archwilio i'r posibl o dynnu statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth, ac a yw'r gwaith hwn yn dal i fwrw ymlaen;

  • ystyried y ddeiseb eto ynghyd â deisebau presennol eraill yn ymwneud â therfynau cyflymder unwaith y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i ohebiaeth flaenorol y Pwyllgor yn ymwneud â'r Adolygiad Terfyn Cyflymder.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan yr Urdd Syrcas ynghyd ag ymateb gan y deisebydd a chytunodd i ystyried camau ymhellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

 

 

3.2

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

  • ofyn am ddiweddariad pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r grŵp ymgyrchu o ystyried y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt gan y ddwy ochr, y gwaith ymgysylltu a gynlluniwyd gyda chartrefi sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y perygl o lifogydd ac ystyriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o'r cais i ymestyn yr oedi yn y gwaith ar hyn o bryd;
  • gofyn am wybodaeth gan Dŵr Cymru ynghylch ei gynlluniau yn ymwneud â Chronfa Ddŵr Llanisien.

 

 

3.3

P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon ei thrafod ochr yn ochr â P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr.  

 

  • Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y sylwadau mwyaf diweddar gan y deisebydd ar gyfer P-05-810.

 

 

3.4

P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon ei thrafod ochr yn ochr â P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y sylwadau mwyaf diweddar gan y deisebydd.

 

 

3.5

P-05-814 Pob Adeilad Newydd yng Nghymru i gael Paneli Solar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried nad oedd llawer o gamau y gallent eu cymryd gyda'r ddeiseb ar hyn o bryd, cytunwyd i hysbysu'r deisebydd o ganlyniad yr adolygiad o Ran L o reoliadau'r adeiladau y disgwylir iddynt gychwyn ar ddechrau 2019 ac ystyried y ddeiseb eto bryd hynny.

 

3.6

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan y deisebwyr ac, oherwydd yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r materion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r disgwyliad i gyflwyno rheoliadau a fydd yn lleihau'r lefel comisiwn gwerthu uchaf i 5 y cant, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y pwynt hwn.

 

 

3.7

P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â gohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am fanylion llawn sgoriau asesu cyfnod 1 sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at Aelodau’r Cynulliad ym mis Gorffennaf 2017.

 

 

3.8

P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at fyrddau iechyd lleol i ofyn:

·         am fanylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gydag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd;

·         a yw gwasanaethau arbenigol ar gael fel yr awgrymwyd gan ganllawiau NICE.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 5 ar yr agenda heddiw:

Cofnodion:

Gohiriwyd eitemau 4 a 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd o dan eitem 6 pan dderbyniwyd y cynnig.

 

5.

Adolygu prosesau ar gyfer deisebau gyda dros 5000 o lofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gohiriwyd eitem 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd yn eitem 6.

 

Adolygodd y Pwyllgor y prosesau ar gyfer deisebau gyda thros 5000 o lofnodion a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i nifer y llofnodion sydd eu hangen cyn i'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer dadl mewn Cyfarfod Llawn o'r Cynulliad.  

 

Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywydd gan nodi nifer o gynigion ar gyfer newid y dulliau ar gyfer casglu llofnodion.

 

 

(10.15 - 11.00)

6.

Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Lesley Griffiths, Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

Dr Christianne Glossop - Swyddog Milfeddygol Cymru

 

Stuart Evans - Pennaeth y Polisi Pysgodfeydd

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeyddol Cymru a Stuart Evans, Pennaeth Polisi Pysgodfeydd.

 

 

6.1

P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am y canlynol:

  • cadarnhau ei hymrwymiad i ddarparu canllawiau sy'n annog lladd-dai yng Nghymru i osod teledu cylch cyfyng;
  • sicrwydd yr anogir pob lladd-dy yng Nghymru i wneud cais am arian grant i osod teledu cylch cyfyng ac y bydd y rhai sy'n dewis peidio gwneud cais yn cael eu monitro'n agos;

gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

 

 

6.2

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am sicrwydd y bydd pob lladd-dy yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am arian grant i osod teledu cylch cyfyng ac y bydd y rhai sy'n dewis peidio gwneud cais yn cael eu monitro'n agos, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

 

 

6.3

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil ymrwymiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn perthynas â gwella arwyddion yn nhraeth Llanfairfechan, cynnal ymarfer asesu stoc llawn ac y bydd y pysgodfa yn parhau i fod ar gau tan o leiaf diwedd 2018, cytunodd y Pwyllgor i gaw lygad barcud ac i ystyried y ddeiseb eto tuag at ddiwedd y flwyddyn.

 

 

6.4

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am gyhoeddiad y Prif Weinidog am y datganiad deddfwriaethol, a ddisgwylir cyn diwedd tymor yr haf, cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.